Galw am newid rheolau marchnata cig

  • Cyhoeddwyd
Cigydd wrth ei waith
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ffermwyr yn anfon eu hanifeiliaid i Loegr i gael eu lladd

Mae Hybu Cig Cymru yn galw ar Lywodraeth San Steffan i newid trefn dosbarthu arian ar gyfer marchnata cig o Gymru.

Y sefyllfa ers sawl blwyddyn yw bod gwledydd Prydain yn derbyn taliadau ar sail lle mae'r anifeiliaid yn cael eu lladd.

Ers i ladd mae nifer o ffermwyr wedi bod yn anfon eu hanifeiliaid dros y ffin i gael eu lladd.

Roedd y lladd-dy yn lladd dros 600,000 o ŵyn bob blwyddyn gyda Hybu Cig Cymru yn cael ychydig o bres am bob anifail.

'£1.5m'

Ond mae'r corff wedi dweud wrth Newyddion 9 eu bod nhw ar eu colled.

Dywedodd Dai Davies: "Ry'n ni'n colli lan i £1.5 miliwn y flwyddyn sydd yn arian ofnadwy tu mewn i gyllideb Hybu Cig Cymru ...

"Os nad yw'r arian gyda chi allwch chi ddim mynd allan i'r gwledydd a marchnata.

"Allwch chi ddim marchnata eich cynnyrch ym Mhrydain Fawr i ddechrau."

Mae'r corff hyrwyddo yn cael £5.67 y pen am bob un o'r gwartheg sydd yn cael eu lladd yng Nghymru, £1.30 am bob mochyn ac 83 ceiniog y pen am bob dafad.

Dros y ffin

I Preston mae William Edwards o Ynys Môn yn anfon ei wartheg.

"Does na ddim cyfleusterau yng ngogledd Cymru ar y funud i ladd gwartheg. Mae mor syml â hynny.

"Maen nhw'n dal i ladd gwartheg lawr yn Merthyr ond dw i yn gweld yr anifeiliad yn cael eu hambygio os ydyn nhw yn wartheg neu yn ŵyn.

"Maen nhw'n cael eu hambygio ar yr hen lôn 'na, yr A470, ac mae llai o stress ar y gwartheg pan maen nhw yn mynd fyny i Lancashire."

System deg

Barn Hybu Cig Cymru yw bod angen mynd yn ol i'r hen system oedd yn bodoli yn y gorffennol:

"Beth i ni am weld yw system deg oedd gyda ni cyn 2001 ble mae'r arian yn cael ei gasglu ac wedyn ei ail ddosbarthu yn ol rhif yr anifeiliaid sydd yn cael eu magu yn y gwledydd hynny."

Dywedodd Gweinidog Amaeth Llywodraeth San Steffan David Heath fod angen ateb teg ac ymarferol i'r sefyllfa.

Mae wedi gofyn i Hybu Cig Cymru a chyrff eraill sydd yn gwneud gwaith tebyg yn y Deyrnas Unedig gyfarfod gyda'i gilydd fel bod modd trafod y mater.