Lleihau'r bwlch
- Cyhoeddwyd
Mae dros 6% yn llai o ddisgyblion wedi ennill gradd A* - A TGAU mewn gwyddoniaeth yng Nghymru'r flwyddyn hon ac mae graddau mathemateg lawr ychydig hefyd.
Y prif reswm tu ôl i'r graddau is yw newidiadau yn y ffordd mae'r cymwysterau'n cael eu harholi, felly nid yw'r canlyniadau yn dangos fod gallu disgyblion wedi dirywio.
Mae disgyblion Cymru wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad gyda gweddill y DU am y drydedd flwyddyn yn olynol, gyda 2.1% yn llai yn derbyn A* ac A yng Nghymru o'i gymharu â gweddill i DU - y ffigwr ar gyfer 2012 oedd 3.2%.
Mae merched yn parhau i wneud yn well na'r bechgyn ac fe wnaeth y bwlch rhyngddynt ehangu ar gyfer pob gradd.
Newidiadau
Fe wnaeth 65.7% o ddisgyblion yng Nghymru lwyddo i gael graddau A* i C y flwyddyn hon o'i gymharu â 65.8% y llynedd.
Mewn gwyddoniaeth fe lwyddodd 51.2% i gael gradd uwch nag C y flwyddyn hon o'i gymharu â 57.3% yn 2012, sef dirywiad o 6.1%.
Mae'r ganran wnaeth dderbyn gradd uwch nag C mewn mathemateg wedi disgyn hefyd o 55.5% yn 2012 i 52.8% y flwyddyn hon.
Yn ôl CBAC, y prif reswm am y dirywiad sylweddol mewn faint wnaeth dderbyn y graddau uchaf mewn gwyddoniaeth, ac mewn mathemateg i raddau llai, yw newidiadau ym mhatrymau mynediad ar gyfer y pynciau.
Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys cynnydd yn nifer y disgyblion 15 oed oedd yn ymgeisio mewn mathemateg a chynnydd yn nifer y disgyblion blwyddyn 11 oedd yn ymgeisio ym mis Tachwedd yn hytrach na mis Mehefin.
Yn ogystal fe gyflwynwyd newidiadau i'r ffordd roedd arholiadau gwyddoniaeth yn cael eu rheoli yn 2011 oedd yn golygu fod disgyblion yn gorfod perfformio'n well i gael yr un graddau.
Roedd y canlyniadau gwyddoniaeth ar gyfer 2012 yn cynnwys disgyblion oedd yn cael eu harholi o dan y drefn flaenorol, felly roedd disgwyl y byddai canlyniadau yn is y flwyddyn hon.
'Calonogol'
Wrth ymateb i'r canlyniadau, dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis yn Ysgol Maesteg: "Mae'r canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw yn dangos fod dysgwyr ledled Cymru, fel rhai ym Maesteg, wedi gweithio'n galed i gael eu canlyniadau ac yn haeddu cael eu llongyfarch.
"Er gwaethaf profion trwyadl mae perfformiad ein disgyblion mewn TGAU yn dangos fod y gyfradd sy'n pasio yn parhau i fod yn sefydlog ar 98.7%, gyda 65.% yn derbyn graddau A* - C, sydd yn galonogol."
Dywedodd Kathryn James, cyfarwyddwr polisi undeb yr NAHT, fod safonau wedi cael eu cynnal ond fod angen cydbwysedd gwell rhwng asesu ac atebolrwydd.
"Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr ac i'r ysgolion am gynnal y safonau ar y cyfan yn ystod cyfnod anodd iawn gyda chefndir ansicr," meddai.
"Roedd y lleihad yn y graddau uchaf yn ddisgwyliedig gan fod mwy o ystod gallu nawr yn cymryd y pynciau hyn.
"Mae patrymau mynediad y flwyddyn hon yn dangos i ba raddau mae pryderon ynghylch y system atebolrwydd wedi bod tu ôl i benderfyniadau mewn ysgolion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2013
- Cyhoeddwyd22 Awst 2013