Teyrnged i 'Yogi'
- Cyhoeddwyd
Bu farw Bryan "Yogi" Davies yn ei gartref yn y Bala yn 56 oed wedi salwch byr.
Wrth chwarae ei gêm olaf i glwb y Bala cyn ymddeol o chwarae rygbi yn 2007, torrodd Brian ei wddf a chafodd ei barlysu.
Treuliodd ddwy flynedd mewn ysbyty yn Southport wrth i apêl godi arian i addasu ei gartref er mwyn iddo fedru dychwelyd yno. Fe godwyd dros £200,000 gyda phob clwb rygbi trwy Gymru yn cyfrannu.
Yn 2009 cyhoeddodd lyfr - Mewn Deg Eiliad - yn son am ei brofiadau er mwyn ceisio cynorthwyo eraill oedd mewn sefyllfa debyg.
'Dyn ofnadwy o gryf'
Dywedodd un o'i gyfeillion pennaf, y Cynghorydd Dilwyn Morgan: "Roedd o wedi bod ar i lawr ers sbel, ond roedd ei ysbryd yn dal yn uchel.
"Roedd ei deulu o'i gwmpas ddoe, ac mae o wedi trefnu pob dim. Mae o isho côr i ganu ar y cae lle cafodd y ddamwain - côr o'r clwb rygbi - ac mi fydd yna wasanaeth ar y cae hefyd.
"Roedd yn ddyn ofnadwy o gryf yn feddyliol."
Nid yw diwrnod yr angladd wedi ei gyhoeddi hyd yma.
Mae'n gadael gwraig, Susan, mab a merch - Ilan a Teleri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd31 Awst 2013