Dyn o Sir Benfro yn gwadu cyhuddiad o esgeulustod
- Cyhoeddwyd

Mae Glynn Seabridge wedi pledio'n ddi-euog i'r cyhuddiadau
Mae dyn o Sir Benfro wedi gwadu cyhuddiad o esgeulustod bwriadol wedi i'w fab chwech oed farw ym mis Rhagfyr 2011.
Bu farw Dylan Mungo Seabridge yn ei gartref Dolau yn Eglwyswrw.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Abertawe plediodd Glynn Seabridge, 47 oed, yn ddieuog i gyhuddiad o esgeulustod bwriadol allai achosi anaf neu ddioddefaint i blentyn dan 16 oed.
Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â'r cyfnod rhwng Gorffennaf 2011 hyd at farwolaeth y plentyn ar Ragfyr 6.
Bydd achos llawn yn dechrau ar Fawrth 17 y flwyddyn nesaf.
Nid oedd ei wraig Julie, sy'n wynebu cyhuddiad tebyg, yn y llys i roi ple ffurfiol.