Y Gymraeg: Galw am newidiadau

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y Sir, CaerfyrddinFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer siaradwyr Cymraeg y sir wedi gostwng i 43.9%

Mae cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i fabwysiadu newidiadau radical er mwyn diogelu'r iaith yng nghymunedau'r sir.

Ddydd Mercher yng Nghaerfyrddin bu aelodau'r mudiad yn cyflwyno tystiolaeth i weithgor arbennig gafodd ei sefydlu gan y cyngor yn dilyn canlyniadau cyfrifiad 2011.

Yn ôl ffigurau'r cyfrifiad fe wnaeth nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir ostwng i lai na 50% am y tro cyntaf erioed.

Y sir welodd y cwymp mwyaf yng Nghymru - sef 6.4%

Yn siarad cyn y cyfarfod, dywedodd cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, Sioned Elin:

"Rydyn ni'n cymryd y Cyngor Sir ar eu gair eu bod nhw am weithredu dros y Gymraeg, ond byddwn yn esbonio wrthyn nhw y bydd yn rhaid wrth newidiadau cwbl sylfaenol os am lwyddo.

"Dyma'r cyfle olaf i sicrhau bod pobl yn gallu byw mewn cymunedau hyfyw Cymraeg, a'r hawl i fyw bywyd yn llawn yn Gymraeg. Dyma'r cyfle olaf i sicrhau dyfodol felly i'n plant."

Newidiadau sylfaenol

Yn ôl Ffred Ffransis, un o'r rhai fydd yn cyflwyno tystiolaeth ar ran y Gymdeithas, mae'r grŵp eisoes wedi cwrdd ag arweinydd y Cyngor yn ystod yr haf.

"Yr hyn sydd ei angen yw yn lle bod y cyngor yn gwneud eu gwaith eu hunain yn Saesneg dylai'r cyngor osod nod o wneud eu gwaith eu hunain yn Gymraeg."

Ymhlith y newidiadau sylfaenol y mae'r Gymdeithas yn pwyso amdanynt y mae:

  • Sicrhau na chaiff unrhyw blentyn yn y sir ei amddifadu o'r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio'n Gymraeg.

  • Galw am gynlluniau cymunedol i sefydlu faint o dai sydd angen yn lleol, beth yw patrymau gwaith a thrafnidiaeth a sut i wneud y defnydd gorau o asedau fel ysgolion.

Fe wnaeth aelodau'r Gymdeithas gyflwyno eu tystiolaeth am 2pm.

Cyn y cyfarfod dywedodd y cynghorydd Cefin Campbell, cadeirydd y gweithgor: "Rydym yn ymwybodol iawn o ddifrifoldeb y sefyllfa a'r angen am atebion radical a phellgyrhaeddol.

"Dyw'r polisïau presennol yn amlwg ddim yn gweithio.

"Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â chynyrchiolwyr Cymdeithas yr Iaith."

Dywedodd y cynghorydd Campbell fod yna groeso i aelodau'r cyhoedd i gyfrannu i'r drafodaeth drwy anfon sylwadau i'r Gweithgor Cyfrifiad erbyn 31 Hydref.

Fe fydd y Gweithgor hefyd yn cysylltu â Llywodraeth Cymru wrth iddynt hwy sefydlu Comisiwn i ymchwilio i sefyllfa'r iaith yn Sir Gaerfyrddin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol