'Cwtsh' neu 'cwtch'?
- Cyhoeddwyd
Mae digrifwr o Abertawe wedi tanio dadl ffyrnig am sillafiad gair Cymraeg cyfarwydd!
Arwyddair ymgais Bae Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant 2017 yw "Cwtch The Bid" - mae'r ardal sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd a Phort Talbot wedi cyrraedd y rhestr fer o bedwar lleoliad posib.
Ond ai 'cwtch' neu 'cwtsh' ddylai ymddangos yn rhyfelgri'r cais?
Does dim amheuaeth ym meddwl y comedïwr lleol Phil Evans mai cwtsh yw'r sillafiad cywir, ac fe ymddangosodd ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Iau i ddadlau ei achos.
"Nid dim ond fi sy'n dweud hyn," meddai.
"Mae'r peth wedi mynd yn wyllt ar y wê - facebook, twitter... bobman!.
"Mae'n neis bod proffil Abertawe wedi codi achos hyn i gyd, ond gyda 'sh' ma' sillafu fe!"
Roedd Rhian Jones, sy'n gweithio gyda'r tîm sy'n cyflwyno cais Bae Abertawe hefyd ar y rhaglen, a dywedodd:
"Fe naethon ni ddadlau am y peth a teimlad y mwyafrif oedd rhoi 'ch' ar y diwedd oedd y peth i 'neud.
"Nagw i'n poeni gormod achos rwy'n credu bod cwtsh yn un o'r geiriau yma sy' ddim yn cyfieithu'n union. Mae e'n air gwych, ond cael blas y gair sy'n bwysig."
Ychwanegodd Phil Evans: "Siwr o fod fydd rhaid i fi dderbyn tîm Bae Abertawe yn dweud 'cwtch', ond os fyddwn ni'n ennill fyddai'n mynd mas i drefnu digwyddiad Comedi Cwtsh fel rhan o'r ŵyl!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2013