Cadeirydd newydd i fwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford mae Dr Peter Higson sydd wedi ei benodi'n gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Yn hanu o Lanrwst yng Nghonwy, mae Dr Higson yn gyn prif weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Bu hefyd yn brif weithredwr dros dro ar ELWa - y corff oedd yn gofalu am addysg ôl-16 oed yng Nghymru ar y pryd - rhwng 2004 a 2006.
Rhan o'i waith gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru oedd archwilio gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Gadawodd y swydd yn Rhagfyr 2012, ac fe gafodd ei anrhydeddu gyda'r OBE yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd.
Yn gynharach eleni, ymunodd â thîm Comisiynydd Pobl Hyn Cymru.
Gadawodd y cadeirydd blaenorol, yr Athro Merfyn Jones, y swydd yn dilyn cyhoeddi adroddiad beirniadol am y Bwrdd.
Fe wnaeth ymchwil ddarganfod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd iechyd a bod hynny'n rhoi iechyd cleifion mewn perygl.
'Profiad eang'
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw'r mwyaf yng Nghymru - mae'n gwario dros biliwn o bunnoedd y flwyddyn ac yn cyflogi 16,500 o staff.
Cafodd BIPBC ei sefydlu yn 2009 ac mae'n gyfrifol am redeg gwasanaethau iechyd ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru - o ddoctoriaid teulu i wasanaethau mewn ysbytai.
Wrth gyhoeddi penodiad Dr Higson i'r swydd dywedodd y Gweinidog:
"Rwy'n falch bod Dr Peter Higson wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae ganddo brofiad eang o weithio yn y GIG, ac mae'n rhoi cryn bwyslais ar faterion ansawdd a diogelwch. Bydd hyn yn hynod fanteisiol i'r bwrdd iechyd."
Dywedodd Dr Peter Higson ei hun:
"Rwy'n falch iawn o gael ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fel un o'r gogledd ac oherwydd fy mod wedi treulio rhan helaeth o'm gyrfa yma, rwy'n edrych ymlaen at helpu i ddarparu gwasanaethau iechyd o'r radd flaenaf i'r rhanbarth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2013
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013