Pryder am 'osgoi' rhestrau aros

  • Cyhoeddwyd
llawdriniaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon cyhoeddus yn galw am ymchwiliad pellach

Mae pwyllgor o aelodau cynulliad yn rhybuddio ei bod hi'n bosib y bod rhai cleifion yn aros llai am driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd drwy dalu ymgynghorwyr yn breifat.

Yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon cyhoeddus mae'r dystiolaeth yn gymysglyd ond mae angen cynnal ymchwiliad.

Mae ACau hefyd yn anhapus gydag oriau hir ymgynghorwyr gan ddweud fod y drefn yn anghynaladwy.

Mae adroddiad y pwyllgor yn disgrifio sefyllfa a all arwain at rai yn aros llai o amser ar y rhestr aros.

Ar ôl ymweld â meddyg teulu fe allai claf dalu i weld ymgynghorydd o fewn wythnosau, yn hytrach nag aros i weld yr un ymgynghorydd ar y Gwasanaeth Iechyd.

Drwy dalu am ymgynghoriad preifat, meddai'r adroddiad, fe allai claf leihau'r amser sy'n rhaid aros rhwng eu hymweliad cyntaf â'r meddyg teulu a derbyn triniaeth.

Rhybuddiai'r adroddiad fod yna 'gymhelliad croes i'r graen' i ymgynghorwyr foddhau a rhestrau aros hir ar y Gwasanaeth Iechyd, er mwyn i fwy o bobl fynd atynt yn breifat.

Triniaeth gyfartal

Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod y dystiolaeth yn "anghyson".

Dywed llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda nad oedd sefyllfa o'r fath yn bosib, ond awgryma Bwrdd Iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro ei bod yn bosib i gleifion gyflymu'r drefn.

Dwedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod yna "brosesau, canllawiau a rheolau" sy'n sicrhau triniaeth gyfartal.

Er hyn dywed ACau ar y pwyllgor eu bod yn parhau i boeni fod yna risg posib.

Mae'r adroddiad yn galw ar yr Archwiliwr Cyffredinol i ymchwilio oherwydd nad yw'r sefyllfa yn gwbl eglur.

Daw'r adroddiad yn sgil adroddiad, dolen allanol blaenorol gan yr Archwilydd Cyffredinol oedd yn dweud fod rhai ymgynghorwyr yn gweithio gormod o oriau - a hynny er gwaetha trefn newydd gafodd ei fabwysiadu ddeng mlynedd yn ôl i fynd i'r afael ar broblem.

Adeg hynny cafodd cynlluniau gwaith gorfodol eu cyflwyno oedd yn caniatáu i ymgynghorwyr a'u cyflogwyr ddod i gytundeb am y patrwm gwaith yn ystod wythnos waith.

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Darren Millar fod y cytundeb hwnnw wedi gwella'r drefn o recriwtio a chadw staff, ond roedd angen i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o "arweinyddiaeth strategol."

"Ond nid ydym yn credu fod y drefn bresennol lle mae nifer o ymgynghorwyr yn gweithio oriau mor hir yn drefn sy'n gynaliadwy."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol