Meddygon ymgynghorol yn parhau i weithio oriau rhy hir

  • Cyhoeddwyd
Meddyg
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfraddau recriwtio a chadw meddygon ymgynghorol wedi gwella ers cyflwyno'r contract diwygiedig

Mae rhai meddygon ymgynghorol yn parhau i weithio oriau rhy hir, er gwaethaf cytundeb oedd i fod i fynd i'r afael â'r broblem 10 mlynedd yn ôl, medd adroddiad.

Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae un o bob chwech yn gweithio o leiaf 46.5 awr yr wythnos ac yn aml yn mynd y tu hwnt i derfyn 48 awr y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd.

Ym mis Rhagfyr 2003, cyflwynwyd cytundeb diwygiedig i feddygon ymgynghorol y GIG yng Nghymru gyda'r bwriad o sicrhau nifer o fanteision i feddygon ymgynghorol a'r GIG yn gyffredinol.

Rhwng 2004 a 2011 gwariwyd £35m ar weithredu'r cytundeb newydd a oedd yn anelu at wella amgylchedd gwaith meddygon ymgynghorol, gwella prosesau recriwtio a chadw, ac annog cydweithredu rhwng rheolwyr iechyd a meddygon ymgynghorol er mwyn darparu gwasanaeth gwell i gleifion.

Ond yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, nid yw'r manteision y bwriadwyd i'r cytundeb eu cyflawni i'r gwasanaeth iechyd yn cael eu gwireddu'n llawn, a hynny'n bennaf oherwydd gwendidau mewn trefniadau cynllunio swyddi meddygon ymgynghorol.

Yn fwy cadarnhaol, medd yr Archwilydd, mae cyfraddau recriwtio a chadw meddygon ymgynghorol wedi gwella ers cyflwyno'r cytundeb diwygiedig, gyda nifer y meddygon ymgynghorol llawn amser yn cynyddu 37% rhwng 2004 a 2011, a nifer y swyddi gwag yn lleihau 6.3% yn ystod yr un cyfnod.

'Pryderu'

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: "Mae'r cytundeb diwygiedig i Feddygon Ymgynghorol wedi cynyddu nifer y meddygon ymgynghorol ac erbyn hyn mae wythnos waith gyfartalog y rhan fwyaf ohonynt yn fyrrach nag yr oedd.

"Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod llai na hanner y meddygon ymgynghorol a holwyd yn yr archwiliad yn teimlo bod y cytundeb wedi helpu i foderneiddio'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig i gleifion, yn arbennig gan mai hwn oedd un o'i brif nodau.

'Mae fy adroddiad yn pwysleisio bod proses cynllunio swyddi effeithiol i feddygon ymgynghorol yn hanfodol os yw'r cytundeb am sicrhau'r manteision a fwriadwyd.

"Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a chyrff y GIG yn mabwysiadu'r argymhellion clir sydd yn yr adroddiad."

Roedd llai na hanner y meddygon ymgynghorol a ymatebodd i'r arolwg yn ystod yr archwiliad yn teimlo bod y cytundeb diwygiedig a chynllunio swyddi wedi arwain at well ymarfer clinigol, ac roedd llai na'u hanner yn credu ei fod wedi gwella gofal i gleifion a dulliau gweithio meddygon ymgynghorol.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys:

  • Mae angen i gyrff y GIG gytuno ar amcanion a chanlyniadau clir yng nghynlluniau swyddi pob meddyg ymgynghorol.

  • Mae'n bwysig sicrhau bod clinigwyr a rheolwyr sy'n rhan o bennu'r amcanion a'r canlyniadau hyn yn cael hyfforddiant a chefnogaeth briodol i wneud y gwaith hwn.

  • Dylid adolygu cynlluniau swyddi meddygon ymgynghorol bob blwyddyn, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu blaenoriaethau clinigol a datblygiad proffesiynol y meddygon ymgynghorol, a dylent gynnwys mewnbwn gan reolwyr cyffredinol.

'Siomedig'

Dywedodd Darren Millar AC, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru: "Mae ymgynghorwyr y GIG yn chwarae rhan allweddol yn y GIG.

"O gofio'r symiau sylweddol o arian a wariwyd wrth roi'r cytundeb diwygiedig i ymgynghorwyr ar waith ers 2003, mae'n siomedig gweld nad yw rhai o'r prif fanteision a ragwelwyd wedi cael eu gwireddu'n llawn.

"Mae'n hanfodol, felly, bod cyrff y GIG yn cryfhau eu trefniadau ar gyfer gweithio gydag ymgynghorwyr a'u bod yn ymgymryd â'r dasg o gynllunio gwaith ymgynghori mewn modd mwy effeithiol, a hynny er mwyn cynllunio a darparu'r gwasanaethau y mae pobl leol eu hangen."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol