Cadarnhau cau Ysgol Gynradd Llanddona ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Llanddona
Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i 56 o ddisgyblion yn Ysgol Llanddona, ond 13 sydd yno ar hyn o bryd

Daeth cadarnhad gan Gyngor Sir Ynys Môn y bydd Ysgol Gynradd Llanddona yn cau ym mis Awst 2014.

Cafodd y penderfyniad i gau'r ysgol ei gymeradwyo gan Bwyllgor Gwaith yr awdurdod ddydd Llun. Bydd disgyblion yr ysgol yn cael eu symud i Ysgol Llangoed, gyda dalgylchoedd y ddwy ysgol yn cael eu huno.

Mae 13 o ddisgyblion yn Ysgol Llanddona ar hyn o bryd, ac un arall yn y dosbarth meithrin. Mae lle yn yr ysgol i 56 o blant.

Dywedodd arweinydd y cyngor, sydd hefyd yn ddeilydd y portffolio addysg, bod y penderfyniad wedi ei wneud gyda thristwch mawr.

'Baich sylweddol'

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams: "Daeth y Pwyllgor Gwaith i'w benderfyniad wedi proses ymgynghori eang.

"Mae heddiw, heb os, yn ddiwrnod trist i'r gymuned leol, ond mae'n rhaid i ni weithredu er lles buddiannau'r Ynys gyfan. Mae niferoedd disgyblion yn disgyn ac mae'r lleoedd gweigion uchel mewn amryw o'n ysgolion a ni all y sefyllfa bresennol barhau."

Ychwanegodd: "Mae lleoedd gweigion yn faich ariannol sylweddol ar yr Awdurdod a'n gallu i ddarparu addysg o'r safon gorau ar draws yr holl Sir."

Yn ôl Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Ynys Môn, Dr Gwynne Jones:

"Mae'r Awdurdod yn colli oddeutu £400,000 y flwyddyn oherwydd lleoedd gweigion cynradd a gall ein Gwasanaeth Addysg, ein hysgolion na'n disgyblion ddim fforddio colli'r fath arian."

"Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod y cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau caled ynglŷn â rhesymoli ysgolion a dyfodol darpariaeth addysg i'r dyfodol yn disgyn ar awdurdodau lleol.

"Mae gennym ddyletswydd i greu darpariaeth addysg ar gyfer yr 21ain ganrif, a bydd yr arian yr ydym ei angen i gyflawni hyn ddim ar gael oni bai ein bod yn ymafael yn y ddraenen ac ymateb i'r broblem o leoedd gweigion."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol