Brwydro yn erbyn cynlluniau i gau ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni plant mewn tair ysgol ar ogledd orllewin Ynys Môn yn dweud y byddan nhw'n brwydro yn erbyn unrhyw gynlluniau i'w cau.
Mae'r cyngor sir yn ystyried dyfodol ysgolion Ffrwd Win yn Llanfaethlu, Llanfachraeth, a Chylch y Garn.
Yn ôl yr awdurdod, mae'n rhaid gwneud newidiadau mewn sawl ardal oherwydd y nifer uchel o leoedd gweigion yn ysgolion yr ynys.
Cafodd mesurau arbennig eu rhoi ar wasanaethau addysg Môn dros yr haf wedi i arolygwyr ddod i'r casgliad fod gwasanaethau yn "annerbyniol".
Roedd adroddiad Estyn yn feirniadol o safonau, presenoldeb isel, cynllunio ac ansawdd arweinyddiaeth ar yr ynys.
Lleoedd gweigion
Meddai arweinydd Cyngor Ynys Môn, Bryan Owen:
"'Da ni wedi cael ein beirniadu'n eitha' hallt gan Estyn yn ddiweddar ac mae'r llywodraeth yn disgwyl ein bod ni'n taclo'r lleoedd gweigion yma sydd yn ysgolion y sir ac mae'r lleoedd gweigion yn uchel iawn yma i ddweud y gwir.
Dywedodd Mr Owen y byddai'r cyngor yn pwyllo wrth ystyried y sefyllfa ac yn gwrando ar safbwyntiau pob ochr.
"Mae'r teuluoedd yma wedi dweud wrthon ni fod yn rhaid i ni gymryd i ystyriaeth Wylfa a phob dim, os ydy hwnnw'n dod, ac os fydd modd llenwi'r ysgolion ac yn y blaen.
"Ond mae'n broses y bydd yn rhaid i ni gymryd sylw eitha' serious ohono a symud ymlaen."
"Yr ysgolion ydy canol y cymunedau ac yn y blaen ond, ar y llaw arall, mae'n rhaid i ni edrych ar y ffordd 'da ni'n gallu rhoi'r addysg orau bosib i blant yr ynys."
'Calon y gymdeithas'
Bu'r rhieni yn cynnal protest yn erbyn y cynlluniau y tu allan i bencadlys Cyngor Môn yn Llangefni ddydd Llun.
Maen nhw'n credu fod yr ysgolion anghywir yn cael eu targedu.
Dywedodd un o rieni Ysgol Cylch y Garn oedd yn y brotest:
"Plant bach hen ffasiwn ydy'r rhain, dy'n nhw ddim eisiau cael eu gyrru i ysgol fawr, cael eu gyrru milltiroedd mewn bws a chael eu colli yno mewn ffordd."
Meddai rhiant arall: "Mae'r ysgol yn galon y gymdeithas. Mae'n ysgol gymuned - mae'r neuadd yn cael ei defnyddio' gyda'r nos hefyd."
Dywedodd Liz Gillham, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Ffrwd Win: "Mae 'na 18 o ysgolion ar yr ynys gyda mwy o leoedd gweigion na'r ysgolion hyn.
"Yn adroddiad Estyn, fe wnaeth ein hysgolion ni'n dda iawn."
Bydd Cyngor Môn yn edrych ar holl ysgolion y sir maes o law, ac mae 'na gynlluniau i ad-drefnu ysgolion yn ardaloedd Biwmares, Llangoed, Llanddona a Chaergybi.
Mae'r cynlluniau ar gyfer ardaloedd Llangefni a Thalwrn wedi cael eu gohirio am y tro
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012