Gwerthu derwen hyna' Prydain

  • Cyhoeddwyd
Coeden dderw Pontfadog
Disgrifiad o’r llun,

Disgynnodd Derwen Pontfadog wedi gwyntoedd cryfion fis Ebrill diwetha'

Mae darnau o hen goeden dderw yn ardal Wrecsam, a ddisgynnodd mewn gwynt cryf, yn cael eu gwerthu er mwyn codi arian i elusen.

Roedd Derwen Pontfadog yn cael ei hystyried yn un o'r hyna' ym Mhrydain - gyda sôn ei bod yn dros 1,200 o flynyddoedd oed.

Ond cafodd ei chwythu i lawr mewn storm ym mis Ebrill eleni.

Nawr mae darnau ohoni yn cael eu gwerthu, gyda'r arian yn mynd at Hosbis Nightingale House yn Wrecsam.

Mae'r cerfiwr lleol, Stuart Jones, wedi torri darnau allan ohoni ar ffurf bwyelli, ac maent yn cael eu gwerthu am £20 yr un.

Hanesyddol

Bu'r goeden yn tyfu yn agos i'r Waun yn Wrecsam ers y flwyddyn 802 ac yn 42 troedfedd a phum modfedd o drwch.

Roedd rhai yn honni ei bod yn dyddio'n ôl i amseroedd Rhufeinig, a bod Tywysog Cymru Owain Gwynedd a'i luoedd wedi cwrdd o amgylch y goeden yn y 12fed Ganrif, cyn iddynt drechu lluoedd Harri'r II o Loegr.

Roedd perchnogion y goeden wedi rhoi darnau o'r goeden i'w cerfio a'i gwerthu er budd yr hosbis.

Dywedodd Caroline Siddall o'r hosbis: "Er iddi sefyll yn ein sir am 1,200 o flynyddoedd, rydym i gyd wedi goroesi Derwen Pontfadog. Mae'n addas iawn, felly, fod y pren yn cael ei ddefnyddio i ariannu gofal ar gyfer aelodau'r gymuned ar ddiwedd eu hoes."

Bydd gweddill y goeden yn cael ei chadw fel cofeb ym mhentre' Pontfadog.

Ond mae arbenigwyr o erddi botaneg Kew yn Llundain wedi cymryd samplau ohoni er mwyn eu defnyddio i geisio tyfu fersiwn debyg i'r goeden hynafol.