Owen Smith yn amddiffyn polisïau Llafur

  • Cyhoeddwyd
Owen Smith
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Owen Smith bod ystyriaeth ariannol wedi ei roi i'r polisiau newydd

Mae llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith wedi amddiffyn polisïau newydd ei blaid, gan ddweud bod costau pob un wedi eu hystyried.

Mae arweinydd y blaid, Ed Miliband yn cyhoeddi nifer o bolisïau yng nghynhadledd flynyddol Llafur, i geisio mynd i'r afael a beth mae'n alw'n "argyfwng" costau byw.

Dywedodd Mr Smith bod costau'r polisïau wedi eu "hystyried yn llawn, a'u talu amdanynt yn llawn".

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y bydd y polisïau newydd yn costio biliynau o bunnoedd i'w gweithredu.

Ymysg y polisïau y mae Llafur yn dweud y byddant yn newid yw'r newid i fudd-dal tai i deuluoedd gyda 'stafell wely sbâr, neu'r 'dreth ystafell wely'.

Mae gwybodaeth gan y Ceidwadwyr yn dweud y byddai angen benthyg £1,000 yn ychwanegol i bob cartref yn 2015, i weithredu newidiadau Llafur.

'Chwerthinllyd'

Ond mae Mr Smith wedi ategu sylwadau Mr Miliband gan ddweud nad oedd hynny'n wir.

"Byddwn yn talu amdano drwy newid cloerdyllau yn y gyfraith, gafodd ei gyflwyno gan y Torïaid, sy'n galluogi talu llai o drethi ar fuddsoddiadau - mae hynny'n £150 miliwn," meddai Mr Smith wrth y BBC.

"Byddwn yn cael gwared ar y syniad chwerthinllyd y gall weithwyr werthu eu hawliau am gyfranddaliadau, a chyflwyno newidiadau eraill i gynnig buddion i'r diwydiant adeiladu."

Yn siarad cyn cynhadledd y blaid lafur yn Brighton, dywedodd Mr Smith ei fod yn falch bod Mr Miliband wedi cyhoeddi ei fwriad i gael gwared ar y 'dreth ystafell wely'.

"Ni fydd y polisi yn gweithio oherwydd diffyg tai addas, a ni fydd yn arbed £470m fel mae'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl."

"Yn syml mae'n annheg ac yn anghywir."