Cwestiynau dros daliadau i brif weithredwr Cyngor

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Sir Penfro yn dweud bod y cynllun er mwyn denu a chadw staff

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwrthod â chymeradwyo cyfrifon blynyddol Cyngor Sir Penfro wedi iddyn nhw gwestiynu taliadau i'r prif weithredwr, Bryn Parry-Jones.

Ym mis Medi 2011, cafodd newidiadau eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Staff Hyn i ganiatáu uwch-swyddogion ar gyflogau uchel i adael cynllun pensiwn y Cyngor a derbyn taliadau ariannol yn eu lle.

Mae cofnodion y cyfarfod yn dangos mai rhesymau treth oedd y prif reswm am y newid, i gadw a denu uwch-swyddogion yn y dyfodol.

Yn gynharach y mis yma, dywedodd y Swyddfa Archwilio bod rhai taliadau gan Gyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn torri rheolau, rhywbeth gafodd ei wrthod gan y cyngor hwnnw.

Cyfarfod preifat

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi dod i'r fei wedi adroddiad y Swyddfa Archwilio am Gyngor Sir Penfro.

Roedd chwech o gynghorwyr yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Staff Hyn, yn eu plith arweinydd y cyngor ar y pryd, John Davies a'r arweinydd presennol Jamie Adams.

Roedd y prif weithredwr ei hun, Bryn Parry-Jones, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y newid i daliadau pensiwn, ond dyw hi ddim yn glir os wnaeth e gyfrannu i'r drafodaeth.

Yn ôl y cofnodion, roedd pryder y byddai staff ar gyflogau uchel ar eu colled oherwydd newidiadau i'r system dreth.

Mae'r cofnodion yn dangos y cafodd y newid ei gytuno er mwyn cadw uwch-swyddogion yn y cyngor, a gallu denu rhai newydd yn y dyfodol.

Mae'r Swyddfa Archwilio yn dweud bod yna wahaniaeth barn rhyngddyn nhw a'r cyngor ynglŷn ag a oedd y taliadau yn briodol.

'Cyfreithlon'

Mae adroddiad ariannol blynyddol Cyngor Sir Benfro yn dangos bod y prif weithredwr wedi derbyn £194,661 yn cynnwys pensiwn neu daliadau cywerth.

Mae'r cyngor wedi derbyn barn gyfreithiol annibynnol sy'n dweud bod y taliadau yn gyfreithlon, ac maen nhw yn dweud nad oedd y newid yn creu unrhyw gostau ychwanegol i'r awdurdod.

"Cyngor cyfreithiol Cyngor Sir Benfro yw bod y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Staff Hyn ar Fedi 28ain 2011 - i alluogi uwch-swyddogion dderbyn taliad cywerth i gyfraniad pensiwn y cyflogwr os ydynt yn gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - yn gyfreithlon," meddai'r Cyngor.

"Mae'r cynllun ar gael i bob uwch swyddog ac nid oes unrhyw gost ychwanegol i'r Cyngor pan mae swyddogion yn penderfynu 'gadael' y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

"Pwrpas cynnig 'gadael' y cynllun yw cynorthwyo recriwtio a chadw uwch swyddogion.

"Roedd y prif weithredwr, Bryn Parry-Jones, yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Staff Hyn ar Fedi 28ain, 2011, fel y byddai i bob cyfarfod o'r pwyllgor."

Craffu

Bydd y mater yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Craffu Llywodraethiant Corfforaethol Sir Benfro ddydd Llun, Medi 30ain.

Bydd Pwyllgor Craffu Sir Caerfyrddin hefyd yn cwrdd fore Gwener, Medi 27ain i drafod taliadau sydd hefyd wedi achosi pryder i'r Swyddfa Archwilio.

Mae'r Swyddfa Archwilio wedi dweud nad ydyn nhw yn ymwybodol o unrhyw gyngor arall sydd wedi cyflwyno newid tebyg.

Ond, mae Cyngor Caerffili wedi cadarnhau bod y Swyddfa Archwilio wedi codi cwestiynau am daliadau i brif swyddogion yr awdurdod. Yn yr achos hwn taliadau yn ymwneud a lwfans car a gwyliau blynyddol sydd dan sylw.

Maae'r Swyddfa Archwilio yn dweud bod y taliadau yn anghyfreithlon gan bod y penderfyniadau wedi eu gwneud gan unigolion nad oedd yn gymwys i wneud hynny yn unol a chyfansoddiad Cyngor Caerffili.

Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn disgwyl clywed casgliadau archwilydd allanol i'r mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol