BBC ac EOS: datganiadau cloi

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radioFfynhonnell y llun, BCB
Disgrifiad o’r llun,

Fe olygodd yr anghydfod nad oedd rhywfaint o gerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae ar Radio Cymru am sawl wythnos ddechrau'r flwyddyn

Mae tribiwnlys hawlfraint gafodd ei gynnal er mwyn penderfynu faint ddylai'r BBC dalu cerddorion Cymraeg wedi gorffen clywed tystiolaeth yn llys y goron Caernarfon.

Bydd tri o aelodau'r tribiwnlys yn cyhoeddi eu casgliadau nhw ymhen ychydig wythnosau a fydd yn datgan y gwerth maen nhw wedi penderfynu dylid eu rhoi i asiantaeth Eos sydd yn cynrychioli rhai cerddorion Cymraeg.

Roedd rhoi o aelodau Eos megis Bryn Fôn a Dewi Pws Morris yn y llys i glywed y cyflwyniadau olaf gan fargyfreithwyr Eos a'r BBC.

£1.5 miliwn

Dywedodd Gwion Lewis sydd yn cynrychioli Eos fod "dyfodol diwylliant cerddoriaeth" yn nwylo'r tribiwnlys ac y dylai'r BBC dalu ffi flynyddol o £1.5 miliwn er mwyn cael yr hawl i chwarae caneuon yr aelodau.

Roedd yn dod i'r casgliad y dylid talu'r swm yma am fod ansawdd y gwaith yn un "premiwm" meddai a oedd yn cael eu gwneud gan nifer fach o gyfansoddwyr a'r gerddoriaeth yn cael ei ddarlledu yn bennaf ar un orsaf radio, sef Radio Cymru.

Ychwanegodd fod yna rheidrwydd ar y BBC i gefnogi ieithoedd lleiafrifol ym Mhrydain a bod yna ddyletswydd ar Radio Cymru i wneud mwy nag adlewyrchu cerddoriaeth Gymraeg ar yr orsaf.

£100,000

Dadl Lindsay Lane, bargyfreithwraig y BBC oedd mai £100,000 oedd y swm uchaf yr oedd y gorfforaeth yn teimlo y dylai dalu yn flynyddol er mwyn cael mynediad i gasgliad Eos.

Dywedodd fod yr arian yma yn fwy na gwerth go iawn y gerddoriaeth wrth ei gymharu gyda graddfa'r farchnad ac nad oedd yna "unrhyw gyfiawnhad" am y swm yr oedd Eos yn gofyn amdano.

Yn ôl Ms Lane mae'r BBC yn deall pwysigrwydd cerddoriaeth Gymraeg ar gyfer gwrandawyr Radio Cymru ac mae'r orsaf yn cefnogi ac yn buddsoddi yn y diwydiant mewn sawl ffordd.