Pencadlys heddlu newydd i Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
gorsaf heddlu wrecsamFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tŵr sy'n gartref i orsaf heddlu Wrecsam yn amlwg uwchben canol y dref

Mae cynllun i godi pencadlys rhanbarthol newydd i Heddlu'r Gogledd yn Wrecsam gam yn nes wedi iddyn nhw sicrhau tir ar gyfer yr adeilad.

Mae'r heddlu wedi sicrhau darn o dir ar stad ddiwydiannol Llai ar gyfer y pencadlys newydd, ac mae cynllun ar y gweill hefyd ar gyfer gorsaf heddlu newydd yng nghanol tref Wrecsam.

Cafodd y pencadlys rhanbarthol presennol ar safle Bodhyfryd ei godi yn y 1970au, ac oherwydd adnoddau gwael a chostau uchel i'w gynnal a'i gadw nid yw'r adeilad yn addas i'r 21ain ganrif, medd yr heddlu.

Doedd adnewyddu'r adeilad ddim yn ddewis ymarferol, a dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Polin:

"Fe wnaethon ni gynnal arolwg llawn yn 2011 a ddangosodd nad oedd goraf heddlu Wrecsam yn addas i'w bwrpas bellach.

"Oherwydd oed yr adeilad doedd uwchraddio neu adnewyddu rhannau o'r adeilad ddim yn ddewis ac mae angen brys am newid.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Wrecsam ac asiantau lleol i ganfod tir addas yn ardal Wrecsam er mwyn codi adnoddau plismona newydd.

"Fe fyddwn yn codi celloedd a swyddfeydd gweinyddu newydd sbon ar ddarn o dir yr ydym newydd ei brynu ar stad ddiwydiannol Llai dros y ffordd i ffatri Sharp. Bydd lleoliad y celloedd yn ddelfrydol i wasanaethu ardaloedd Sir y Fflint a Wrecsam ac yn caniatáu i Heddlu'r Gogledd gwrdd â gofynion amgylchedd plismona modern."

Yn ogystal â'r pencadlys rhanbarthol newydd bydd Heddlu'r Gogledd yn agor gorsaf heddlu newydd yng nghanol Wrecsam mewn lleoliad newydd ar y cyd gyda'r Cyngor Sir.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Winston Roddick:

"Rydym wedi ymrwymo i gadw presenoldeb yr heddlu yn Wrecsam ac yn teimlo fod cadw swyddogion yng nghanol Wrecsam yn cefnogi hyn."