Ymgynghori ar greu corff cymwysterau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth i sefydlu corff newydd i reoleiddio cymwysterau yng Nghymru.
Yn dilyn arolwg o gymwysterau yng Nghymru daeth argymhelliad i greu Cymwysterau Cymru fel un corff i fod yn gyfrifol am reoleiddio a sicrhau safonau cymwysterau heblaw graddau yng Nghymru.
Yn y pen draw fe fyddai'r corff hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a gwobrwyo'r mwyafrif o gymwysterau cyffredinol yng Nghymru.
Mae Mr Lewis wedi dechrau'r broses ymgynghori ar ddeddfwriaeth arfaethedig i greu corff o'r fath.
'Perthnasol a manwl'
Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Mr Lewis: "Rydym yn credu y byddai sefydlu Cymwysterau Cymru o fudd i Gymru a dysgwyr yng Nghymru, nid dim ond fel myfyrwyr ond fel dinasyddion a gweithwyr mewn cenedl ddwyieithog sy'n gyfoethog o ddiwylliant ac economi.
"Rwy'n credu fod yr argymhellion yr ydym yn eu cyflwyno yn yr ymgynghoriad yn cryfhau a symleiddio strwythur rheoleiddio a gwobrwyo cymwysterau yng Nghymru.
"Fe fyddan nhw hefyd yn galluogi datblygu cymwysterau sy'n fwy perthnasol a manwl i anghenion Cymru."
Mae'r ddogfen ymgynghori, dolen allanol yn amlinellu sut y bydd swyddogaethau Cymwysterau Cymru yn cael eu rhoi ar waith fesul cam.
O fis Medi 2015 bydd y corff newydd - a fydd yn annibynnol o Lywodraeth Cymru - yn cyflawni'r swyddogaethau rheoleiddio sy'n gyfrifoldeb gweinidogion ar hyn o bryd.
Y bwriad yw mai Cymwysterau Cymru fydd yn dyfarnu a rheoleiddio holl gymwysterau cyffredinol Cymru, ond yn y cyfamser fe ddywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n gweithio gyda sefydliadau dyfarnu gan gynnwys CBAC i ddatblygu ac adolygu Bagloriaeth Cymru a sefydlu cyfres o gymwysterau TGAU a Safon Uwch ar gyfer Cymru.
Fe wnaeth y gweinidog wahodd sylwadau ar y ddogfen, ac fe fydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Ragfyr 20.
Cyn hynny fe fydd y mater yn bwnc trafod mewn cynhadledd genedlaethol ar Ragfyr 11.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2013
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2013