Galw 999 i symud soffa

  • Cyhoeddwyd
999
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd 11,390 o alwadau i'r heddlu eu hateb yn 2012

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n galw ar bobl ond i alw 999 mewn argyfwng, yn dilyn achosion o alwadau niwsans.

Mae enghreifftiau o alwadau anaddas diweddar yn cynnwys un gan rywun oedd eisiau cymorth i symud soffa ac un arall gan rywun oedd methu a chael gafael ar gwmni catalog.

Yn ogystal mae'r heddlu'n atgoffa pobl mai ond ar gyfer materion sy'n ymwneud a nhw dylai'r rhif 101 gael ei ddefnyddio.

Yn ôl yr heddlu mae galwadau diangen yn effeithio ar eu gallu i ymateb i argyfyngau go iawn.

'Gwastraffu amser'

Roedd enghreifftiau eraill o alwadau niwsans yn cynnwys dyn oedd yn chwilio am ferch wnaeth ei chyfarfod ar ei wyliau a dynes yn gofyn a oedd sawdl ei esgid wedi cael ei darganfod.

Fe dderbyniodd y llu dros hanner miliwn o alwadau yn 2012 - ni atebwyd 11,390 o'r rhain gan i'r ffôn gael ei roi lawr cyn i'r galwadau gael eu hateb.

Mae Alex Goss, uwch-arolygydd dros dro Heddlu Gogledd Cymru, yn dweud fod pob galwad ddiangen yn "lleihau'r amser sydd gennym ar gyfer galwadau brys sydd angen sylw'r heddlu".

Ychwanegodd: "Mae ffonio 999 am faterion megis eich bod yn flin gyda'ch cwmni catalog, yn gwastraffu amser ac adnoddau a gallai atal galwad ddilys rhag dod drwodd atom.

"Ni fydd ffonio 999 am faterion arferol yn rhoi gwell gwasanaeth i'r galwr, a fydd yn cael ei gynghori i ffonio'n ôl ar y rhif di-frys. Os ydym yn gweld fod pobl yn parhau i wneud ffug alwadau fe allent wynebu erlyniad."

Dylai pobl ffonio 999 mewn argyfwng. Mae'r heddlu wedi cyhoeddi diffiniad o be sy'n cyfri fel argyfwng rhag ofn nad yw pobl yn sicr.

Argyfwng

Mae sefyllfa yn cyfri fel argyfwng os:

  • Yw bywyd rhywun mewn perygl neu os yw rhywun yn cael eu bygwth yn gorfforol, neu os ydych chi'n gweld trosedd yn digwydd, neu os ydych chi'n meddwl bod y troseddwyr yn dal i fod yn y cyffiniau.

Neu

  • Os ydych yn dyst i ddamwain ffordd ddifrifol neu mewn damwain o'r fath a bod rhywun wedi'i frifo'n ddifrifol, neu os yw cerbydau'n peri rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd.

Dywedodd Mr Goss hefyd ei bod yn bwysig fod pobl yn deall mai ond am faterion sy'n ymwneud â'r heddlu dylai pobl ffonio 101.

"Mae ffonio 101 am faterion sydd ddim yn ymwneud â'r heddlu, gan gynnwys cyngor am ffêr wedi torri, yn gwastraffu amser ac adnoddau," meddai.

"Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar greu teclyn adrodd ar ein gwefan a fydd yn cynorthwyo'r rhai sydd ddim angen yr heddlu i basio eu galwadau a'u hymholiadau ymlaen at ein partneriaid."

Allan o'r holl alwadau brys a dderbyniwyd gan y llu yn 2012 (tua 520,000), fe wnaethpwyd cais am siaradwr Cymraeg 23,561 o weithiau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol