Archwilio cronfa buddsoddi Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
GwyddonyddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae ReNeuron yn cynnal treialon clinigol o nifer o driniaethau celloedd bonyn

Bydd archwilwyr yn craffu ar gronfa Llywodraeth Cymru sydd yn buddsoddi £50m o arian cyhoeddus mewn cwmnïau meddygol.

Cadeirydd Cronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru (Wales Life Sciences Investment Fund) yw'r gwyddonydd a dyn busnes llwyddiannus Sir Chris Evans.

Mae'r gronfa wedi buddsoddi £5m yn ReNeuron - cwmni sydd yn ceisio datblygu triniaeth i ddioddefwyr strôc ac sydd yn bwriadu symud o Surrey i bencadlys newydd rywle yn Ne Cymru.

Gall BBC Cymru ddatgelu bod y buddsoddiad nawr o dan sylw Swyddfa Archwilio Cymru, a dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa:

"Gallaf gadarnhau bod pryderon wedi eu codi gyda'r Archwilydd Cyffredinol am weithrediad Cronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, ac rydym yn trafod gyda gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth Cymru ar y mater.

"Yn y cyfamser cawsom sicrwydd gan Cyllid Cymru eu bod yn gwbl fodlon nad yw gweithdrefnau arferol wedi eu torri a bod gweithredoedd wedi bod yn unol ag arferion y diwydiant."

Archwiliad

Roedd Sir Chris yn gyfranddaliwr yn y cwmni cyn y buddsoddiad, ac fe brynodd 24m o gyfranddaliadau personol ychwanegol ar ôl penderfyniad y gronfa i fuddsoddi ym mis Mehefin.

Dywedodd llefarydd ar ran Syr Chris ei fod wedi datgan ei gyfranddaliad yn ReNeuron yn llawn, a bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo hynny.

Pwysleisiodd bod Syr Chris wedi tynnu ei hun allan o bleidlais derfynol i benderfynu a fyddai'r gronfa yn buddsoddi yn y cwmni, yn ogystal â thri aelod arall o fwrdd y gronfa gyda chysylltiadau â'r cwmni.

Mae ReNeuron yn cynnal treialon clinigol o nifer o driniaethau celloedd bonyn (stem cell), gan gynnwys un sy'n helpu cleifion strôc.

Yn ôl datganiad y cwmni pan gyhoeddwyd y buddsoddiad ar Orffennaf 22, Syr Chris oedd yn gyfrifol am lywio'r cytundeb ar ran y gronfa. Roedd y buddsoddiad yn rhan o becyn cyllid gwerth £25m oedd yn cynnwys nifer o fuddsoddwyr mawr.

Mae'r gronfa bellach yn berchen ar 11% o'r cwmni.

Cwmni newydd

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi grant o £7.8m i'r cwmni gael sefydlu eu cyfleusterau gweithgynhyrchu ac ymchwil yng Nghymru.

Roedd Syr Chris yn gadeirydd panel oedd yn cynghori Edwina Hart, y gweinidog economi, ar sut i hybu'r diwydiant gwyddorau byw yng Nghymru.

Fe greodd gwmni newydd o'r enw Arthurian. Enillodd y cwmni hwnnw gytundeb i reoli'r gronfa ar ran y llywodraeth.

Roedd diddordeb gan Syr Chris yn ReNeuron yn barod oherwydd un o'i gwmnïau buddsoddi.

Er ei fod wedi chwarae rhan allweddol yn y trafodaethau ynghylch buddsoddiad y gronfa yn ReNeuron, tynnodd allan o'r bleidlais derfynol ar Fehefin 25 pan benderfynodd y gronfa fwrw ymlaen â'r buddsoddiad.

Rhwng Mehefin 25 a chyhoeddiad y buddsoddiad yn ReNeuron, prynodd Syr Chris 24 miliwn o gyfranddaliadau ychwanegol yn y cwmni, gyda gwerth o tua £600,000. Cafodd y rhain eu datgelu ar Awst 19.

'Anodd deall'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Arthurian: "Mae'n anodd deall pam y dylai fod unrhyw archwiliad i'r mater hwn gan fod Llywodraeth Cymru a Finance Wales wedi dweud wrthym eu bod nhw'n hapus iawn bod y gweithdrefnau priodol wedi eu dilyn.

"Byddwn, wrth gwrs, yn rhoi pob cymorth sydd ei angen i'r Swyddfa Archwilio.

"Cafodd pob budd eu datgan yn llawn. Nid oedd Syr Chris yn rhan o benderfyniad terfynol bwrdd Arthurian i fuddsoddi, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Ar ôl y penderfyniad terfynol, cafodd y mater ei gyfeirio a'i gymeradwyo gan Cyllid Cymru.

"Ar wahân i hynny, cymerodd y Pwyllgor Grantiau Cymreig ei benderfyniad ei hun ar grantiau ReNeuron.

"Mae hwn yn fuddugoliaeth fawr i Gymru ac fe wnaeth Syr Chris fuddsoddiad personol ar ôl buddsoddiad y gronfa. Fe dalodd pris gosod llawn ac nid yw wedi derbyn unrhyw fantais. Os bydd y cwmni'n gwneud yn dda bydd y Gronfa Gymreig a buddsoddwyr eraill yn gwneud yn dda hefyd."

'Datgan diddordeb'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cyllid Cymru yn gweithredu fel cronfa gynhaliol i Gronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Fe gafodd Arthurian Life Sciences eu penodi fel rheolwr y gronfa yn dilyn proses gaffael ac mae cytundeb mewn lle sy'n galw ar Arthurian i ddilyn trefniadau rheolaeth priodol yn unol ag ymarfer arferol y farchnad.

"Fe ddatgelodd Sir Chris Evans ddiddordeb fel cyfranddaliwr ReNeuron gan esgusodi ei hun o'r holl drafodaethau ar fwrdd Arthurian, ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod na'r bleidlais ar y mater."

Mae'r sector gwyddorau bywyd wedi cael ei nodi gan Lywodraeth Cymru fel un o'r blaenoriaethau allweddol am dwf economaidd.

Mae'r sector yn cynnwys busnesau biotechnegol, technoleg meddygaeth a fferylliaeth.

Mae'n cyflogi tua 15,000 o bobl ac mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu fod y sector yn werth £1.3 biliwn y flwyddyn i economi Cymru.