Rali Cymdeithas: Emyr Llew yn annerch am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Bydd un o ymgyrchwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Emyr Llywelyn Jones yn annerch rali flynyddol sydd wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith ddydd Sadwrn a hynny am y tro cyntaf erioed.
Emyr Llywelyn oedd yn un o'r tri a osododd fom ar safle cronfa ddŵr Tryweryn yn y 60au a dyw e heb annerch rali ers degawd.
Mae disgwyl iddo ddweud bod angen democratiaeth sydd yn parchu'r lleiafrifoedd ac y dylai pobl ddechrau wrth eu traed a gweithredu yn eu bröydd i achub yr iaith.
Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.
"Gwleidyddiaeth y pethau bychain"
Bydd y rali'n dechrau am 2pm yng Nghanolfan Gymunedol Carno.
"Pa ateb sydd gyda ni felly i argyfwng yr iaith?" mae disgwyl i Mr Llywelyn ei ofyn.
"Mae gyda ni ateb - gwleidyddiaeth y pethau bychain... Ystyr gwleidyddiaeth y pethau bychain yw rhoi dehongliad newydd o ddemocratiaeth sef rheolaeth y 'demos', y bobl."
"Gwleidyddiaeth y pethau bychain yw dweud mai'r bobl, y bobl yn eu bro a'u cymdeithas arbennig nhw biau penderfynu beth sy'n digwydd yn y fro honno."
Bwriad y rali yw rhoi'r neges bod angen gweithredu ar frys er mwyn ymateb i ganlyniadau'r cyfrifiad, oedd yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Dyw'r mudiad ddim yn fodlon gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'r hyn maen nhw'n gweld fel 'argyfwng' sydd yn wynebu'r iaith.
Gweithredu uniongyrchol?
Cyn y rali bydd cyfarfod cyffredinol y Gymdeithas yn cael ei gynnal gyda chynnig yn cael ei rhoi gerbron yr aelodau.
Dywed y cynnig y bydd gweithredu uniongyrchol di-drais yn digwydd o ddechrau Chwefror os na fydd Prif Weinidog Cymru yn rhoi ymrwymiad ei fod am gymryd camau i sicrhau'r pethau canlynol:
Addysg Gymraeg i bawb;
Arian 'teg' i'r iaith gan Lywodraeth Cymru;
Y llywodraeth yn annog cyrff cyhoeddus eraill i weithredu yn fewnol trwy'r Gymraeg fel y mae Cyngor Gwynedd yn gwneud;
Safonau iaith i greu hawliau clir;
System gynllunio newydd;
Sicrhau bod yr iaith yn rhan ganolog o'r mesurau Cynaliadwyedd a Chynllunio.
Bydd yr aelodau yn pleidleisio ar y cynnig fore Sadwrn. Fydd yna ddim penderfyniad yn y cyfarfod ynglŷn â pha fath o weithredu fyddai'n digwydd.
Hefyd bydd cloc yn dechrau tician ar-lein sydd yn cyfrif i lawr at 11 Rhagfyr. Adeg hynny mi fydd hi'n flwyddyn ers canlyniadau'r Cyfrifiad pan gyhoeddwyd bod 19.0% o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2011. 20% oedd y ffigwr yn 2001.
'Synau iawn'
Dywed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar na ddylai pobl ddigalonni a dweud eu bod hi'n rhy hwyr i wneud rhywbeth i newid y sefyllfa:
"Rydyn ni wedi amlinellu cynigion manwl iawn, wedi trafod â gwleidyddion o bob plaid ac mae Carwyn Jones wedi dechrau gwneud rhai o'r synau iawn. Ond, mae blwyddyn yn hen bryd iddo wneud datganiad cynhwysfawr am y gweithredoedd newydd, cadarnhaol, radical y bydd o'n eu cymryd dros y Gymraeg."
"A fydd yn datgan y bydd y Mesur Cynllunio yn trawsnewid y system gynllunio fel ei bod yn gweithio o blaid y Gymraeg? A fydd yn derbyn argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies a delifro addysg gyfrwng Cymraeg i bawb?
"A fydd ei gyllideb yn newid er mwyn cynyddu gwariant er lles yr iaith? Dylai allu ateb y cwestiynau hyn a mwy yn fuan iawn. Os na all wneud hynny, yna fydd dim dewis gennym ond gweithredu."
Mae'r cyfarfod a'r rali yn digwydd yng Ngharno, Powys a hynny er mwyn dangos cefnogaeth i'r ymgyrch lwyddiannus leol a gafwyd i achub yr ysgol yno. Yn hytrach na chau'r ysgol fe benderfynwyd yn y diwedd i sefydlu ffederasiwn o ysgolion. Fe fydd cyflwyniad gan rhai a frwydrodd i gadw'r ysgol ar agor yn digwydd yn ystod y diwrnod.
Bydd cyn swyddog Cymdeithas yr Iaith Dafydd Morgan Lewis a chyn cadeirydd y Gymdeithas Toni Schiavone hefyd yn annerch y dorf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2013
- Cyhoeddwyd4 Medi 2013
- Cyhoeddwyd5 Awst 2013
- Cyhoeddwyd5 Awst 2013