Cyngor Caerffili: £500,000 o daliadau anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cyngor sir wneud bron £500,000 o daliadau anghyfreithlon, gan gynnwys codiadau cyflog i uwchswyddogion, yn ystod y flwyddyn ariannol diwethaf.
Dywedodd archwilwyr fod Cyngor Caerffili wedi gwario £270,364 yn anghyfreithlon y flwyddyn ddiwethaf.
Ond mae adolygiad pellach yn dangos bod £218,563 ychwanegol hefyd wedi ei wario yn anghyfreithlon.
Mae'r cyngor wedi dweud bod archwilwyr yn bwrw golwg ar y taliadau.
£488,000
Yn ôl cyfrifon y sir, roedd yna £488,000 o daliadau anghyfreithlon.
Mae'r cyfrifon ar gyfer 2012-13 yn dangos bod y £218,563 ychwanegol wedi ei wario ar lwfans ceir a swyddogion yn prynu dyddiau gwyliau yn ôl.
Mae'r taliadau yn cael eu hystyried yn anghyfreithlon am fod penderfyniadau wedi eu gwneud gan bobl heb awdurdod priodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir: "Rydym wedi cael gwybod gan Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn ystyried taliadau i uwchswyddogion yn ymwneud â lwfans car a gwyliau'n 'wariant anghyfreithlon'.
"Rai misoedd yn ôl penderfynon ni gyfeirio'r mater i'r archwilwyr allanol ac mae'r mater yn parhau i fod dan ymchwiliad.
"Rydym yn aros am eu penderfyniad."
Taliadau cyflog
Mae'r taliadau diweddaraf wedi penderfyniad y Swyddfa Archwilio fod £270,364 eisoes wedi ei roi mewn taliadau anghyfreithlon.
Mae'r cyfrifon yn dangos bod pump uwchswyddog, gan gynnwys y prif weithredwr Anthony O'Sullivan, wedi derbyn taliadau cyflog anghyfreithlon gwerth £94,081.
Cafodd Mr O'Sullivan daliadau gwerth £25,182.
Wedi'r ymchwiliad cafodd Mr O'Sllivan a'i ddirprwy Nigel Barnett eu gwahardd o'u swyddi.
Dywedodd y Swyddfa Archwlio fod yna sawl rheswm pam y dylid ystyried y taliadau yn anghyfreithlon, gan gynnwys y ffaith fod uwchreolwyr yn bresennol mewn cyfarfodydd wrth i'w cyflogau gael eu trafod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013