Swyddfa Bost yn 'gwybod am namau system gyfrifiadurol'
- Cyhoeddwyd
Bedair blynedd yn ôl, cadarnhaodd rhaglen materion cyfoes Taro Naw BBC Cymru fod dwsinau o is-bostfeistri ym Mhrydain wedi cael eu herlyn gan y Swyddfa Bost am ddwyn a chadw cyfrifon ffug.
Datgelodd y rhaglen fod tebygrwydd mawr rhwng yr achosion, hynny yw bod yr is-bostfeistri i gyd yn beio system gyfrifiadurol y Swyddfa Bost, Horizon, am eu trafferthion.
Gwadu hyn wnaeth y Swyddfa Bost a dweud bod eu system yn hollol ddibynadwy.
Yn rhaglen nos Fawrth mae'n dod i'r amlwg fod y Swyddfa Bost yn gwybod bod rhai namau ar y system ers bron i dair blynedd ond heb ddweud wrth neb nes i gwmni annibynnol ddechrau ymchwilio yn gynharach eleni.
Adfer enw da
Ar ôl y rhaglen wreiddiol, daeth ymateb gan is-bostfeistri a sefydlwyd Justice for Sub-Postmasters Alliance er mwyn, medden nhw, adfer eu henwau da a chael iawndal.
Ymhlith yr ymgyrchwyr mae Noel Thomas, o Gaerwen ar Ynys Môn.
Mi gafodd ei garcharu am dri mis yn 2006 ar ôl i'r Swyddfa Bost ei erlyn.
Mae wedi mynnu o'r cychwyn cyntaf mai nam yn Horizon oedd yn achosi i'r system ddangos bod £48,000 ar goll.
"(Mi wnes i) golli pres a cholli pres, a methu'n glir â gwybod lle oedd o'n mynd."
Dywedodd fod £2000 neu £2300 y mis yn diflannu.
"'Swn i 'di cymryd y pres 'na byswn i wedi cael bywyd lot gwell ond nesh i ddim.
"Alla i ddeud hynna wrtha chi gyda'm llaw ar fy nghalon," meddai.
Ymchwiliad annibynnol
Yn gynharach eleni mi lwyddodd mudiad yr is-bostfeistri gyda chefnogaeth Aelodau Seneddol i berswadio'r Swyddfa Bost i dalu i gwmni o gyfrifwyr fforensig - Second Sight - ymchwilio i'w honiadau.
Hwn oedd yr ymchwiliad annibynnol cyntaf.
Mewn adroddiad cychwynnol cyhoeddodd Second Sight fod dau nam yn Horizon wedi arwain at broblemau mewn 76 o swyddfeydd post ac mi ddaeth yn eglur fod y Swyddfa Bost yn ymwybodol o'r namau cyn i'r ymchwiliad ddechrau.
Dywedodd James Arbuthnott, AS Wellingborough: "Roedd y Swyddfa Bost yn gwybod am namau yn y system ac roeddwn yn synnu oherwydd eu bod yn gwybod hynny ac nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i unrhyw aelod seneddol."
Wrth ymateb i'r rhaglen, fe ddywedodd y Swyddfa Bost eu bod yn bwrw 'mlaen gyda rhyw 50 o erlyniadau'r flwyddyn oedd yn rhif bach o gofio bod 11,800 o ganghennau drwy wledydd Prydain.
'Dyletswydd'
"Os oes yna amheuaeth fod drwgweithredu wedi digwydd, yna mae dyletswydd arnom i erlyn," meddai llefarydd.
Ychwanegodd nad oedd ymchwiliad Second Sight wedi dod o hyd i ddiffygion systemig.
Dywedodd y Swyddfa Bost eu bod wedi cyflwyno gwelliannau pellach i'w rhaglen hyfforddiant a chefnogaeth a'u bod wedi sefydlu cynllun cymodi gyda mudiad yr is-bostfeistri.
Nos Fawrth mae Taro Naw yn dilyn y datblygiadau diweddaraf yn stori Noel Thomas ac yn datgelu tystiolaeth newydd allai egluro sut ymddangosodd colledion yn systemau cyfrifiadurol y rhai sydd wedi cael eu herlyn.
Taro Naw, 9.30yh, nos Fawrth, S4C.