Cwmni Land & Lakes yn ystyried apelio

  • Cyhoeddwyd
Map o'r safleFfynhonnell y llun, Land & Lakes
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cwmni Land & Lakes y gallai'r datblygiad ger Caergybi greu hyd at 600 o swyddi

Mae cwmni a oedd eisiau codi parc gwyliau ger Caergybi yn dweud y byddan nhw'n apelio'n erbyn penderfyniad i wrthod y cais os na fydd cynghorwyr yn newid eu meddyliau.

Roedd cwmni datblygu Land & Lakes am godi parc gyda thua 800 o gabanau ar dri safle, ond roedd gwrthwynebiad i'r datblygiad.

Y tri safle oedd Penrhos, Cae Glas a Kingsland.

Gwrthodwyd y cais gan gynghorwyr o bum pleidlais i ddwy gyda dau'n ymatal eu pleidlais.

Fe fydd y cais yn dod yn ôl gerbron cyfarfod pellach o'r awdurdod ar Dachwedd 6 gan fod gwrthod y cais yn erbyn cyngor swyddogion cynllunio.

'Syndod'

Dywedodd prif weithredwr Land & Lakes, Richard Sidi, mai dewis olaf fyddai apelio.

Dywedodd: "Roedd gwrthod y cais yn syndod i mi wedi i ni dreulio tair blynedd yn gweithio gyda swyddogion cynllunio oedd wedi gosod amodau llym arnom.

"Mae ymateb trigolion lleol wedi bod yn syndod hefyd. Rydym wedi clywed gan bron 100 o bobl yn ymbil arnom i beidio rhoi'r gorau i'r cynllun."

Bwriad cwmni Land & Lakes oedd codi 500 o fythynnod ar dir oedd yn eiddo i gwmni Alwminiwm Môn ym Mharc Arfordir Penrhos.

Roedd y cwmni wedi dweud y gallai 300 o unedau llety ar safle Cae Glas gael eu defnyddio gan weithwyr sy'n adeiladu gorsaf bŵer niwclear Wylfa B, ac yna byddai 315 o gabanau pellach yn cael eu codi yno ynghyd â gwarchodfa natur.

I ddechrau byddai gan safle Kingsland 360 o dai a fyddai'n gartref i weithwyr adeiladu safle Cae Glas, ac yna byddai'r tai yn cael eu trosglwyddo i fod yn dai i bobl leol.

'Rhy fawr'

Ond roedd grŵp o ymgyrchwyr lleol yn erbyn y cynllun ar y sail ei fod yn rhy fawr i'r tir sydd ar gael.

Cafodd deiseb yn erbyn y cynllun ei harwyddo gan 1,200 o bobl tra bod deiseb arall gyda 800 o enwau wedi ei hanfon at Lywodraeth Cymru.

Bu Land & Lakes yn gweithio gyda pherchnogion safle Aliwminiwm Môn, Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

Daeth gwaith cynhyrchu alwminiwm ar y safle i ben yn 2009 a diflannodd 400 o swyddi.

Yn dilyn penderfyniad yr wythnos diwethaf i wrthod y cais, dywedodd arweinydd yr awdurdod lleol y Cynghorydd Ieuan Williams, a'r llefarydd dros ddatblygu economaidd Aled Morris Jones mewn datganiad:

"Roedd hwn yn gais emosiynol oedd wedi ei wrthwynebu gan lawer yn lleol.

"Fodd bynnag roedd y cais yn cynnig cyfleoedd sylweddol i greu swyddi a thwf economaidd, ac roedd hynny'n cael ei gydnabod hefyd.

"Gan fod aelodau'r pwyllgor cynllunio wedi dewis pleidleisio yn erbyn argymhelliad swyddogion cynllunio, fe fydd cyfnod o fis i ystyried cyn y bydd y cais yn dod gerbron y pwyllgor eto."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol