Caergbyi: Pryder am bentref twristiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi ffurfio grŵp i wrthwynebu datblygiad twristiaeth a hamdden ym mharc ar Ynys Môn.
Mae Friends of Penrhos yn honni bod y cynllun ar dir sydd yn eiddo i gwmni Anglesey Aluminium yn rhy fawr ar gyfer y lleoliad.
Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys codi tua 500 o fythynnod ynghyd â chaffis, tafarndai, siopau a meysydd chwaraeon.
Dywedodd cwmni Land and Lakes eu bod yn cymryd pryderon y cyhoedd o ddifrif.
Ym mis Medi cyhoeddwyd bod gan y cwmni opsiwn i brynu 360 erw o dir sy'n eiddo i Anglesey Aluminium Metals (AAM) ym Mharc Gwledig Penrhos.
Mae manylion am dir ar dri safle ym Mhenrhos, Cae Glas a Kingsland yng Nghaergybi ar wefan y cwmni.
Dywedodd y cwmni fod eu gweledigaeth ar gyfer Penrhos yn cynnwys creu pentref hamdden gyda chymysgedd o "lletyau o safon uchel ac amrywiaeth o gyfleusterau hamdden a chwaraeon".
Dywedodd Mike Pendragon, sydd yn byw yng Nghaergybi, ei fod wedi ei frawychu gan faint y prosiect ar gyfer y safle 192 erw ym Mhenrhos.
Mae ei wraig, Jan, yn dibynnu ar sgwter symudoldeb, a dywedodd mai Penrhos oedd yr unig le o fewn 20 milltir lle y gallai ei wraig gael mynediad hawdd i gefn gwlad.
Ychwanegodd Mr Pendragon y gallai'r addewid o 600 o swyddi arwain at waith tymhorol cyflog isel yn hytrach na'r swyddi llawn amser sydd eu hangen yn yr ardal.
"Rwy'n teimlo y dylen ni fod yn canolbwyntio ar ymgynghori yn hytrach na gwrthdaro," meddai.
Gan sôn am arddangosfa gyhoeddus Land and Lakes Ltd, dywedodd Richard Sidi, prif weithredwr y cwmni, fod 4000 o daflenni wedi eu dosbarthu a bod bron 700 o bobl wedi mynychu'r arddangosfa.
"Roedd mynediad i Barc Arfordirol Penrhos bob amser yn mynd i fod yn bryder ac rydym yn ymwybodol o fudd cymunedol y parc i bobl Caergybi," meddai.
"Rydym yn cymryd pryderon y cyhoedd o ddifrif ac rydym yn bwriadu ymateb i'r pryderon hyn drwy ein gwefan yn y flwyddyn newydd," meddai.
Ym mis Medi dywedodd Aelod Seneddol yr ynys, Albert Owen, y gallai swyddi cynhyrchu a thwristiaeth gyd-fyw ar Ynys Môn a'i fod yn fater o gael y cydbwysedd yn iawn.