Deiseb yn erbyn pentref twristiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Jenny a Liza Jones wedi treulio'r dyddiau diwethaf yn anfon cardiau Nadolig sy'n hyrwyddo eu hymgyrch
Mae ymgyrchwyr wedi creu deiseb ar-lein i wrthwynebu datblygiad twristiaeth a hamdden mewn parc ar Ynys Môn.
Mae Friends of Penrhos yn honni bod y cynllun ar dir sydd yn eiddo i gwmni Aluminium Môn yn rhy fawr ar gyfer y lleoliad.
Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys codi tua 500 o fythynnod ynghyd â chaffis, tafarndai, siopau a meysydd chwaraeon.
Dywedodd cwmni Land and Lakes y byddai'r datblygiad yn creu hyd at 600 o swyddi.
Ar-lein
Lansiwyd y deisebau ar-lein ym mis Tachwedd gan y ddwy chwaer Jenny a Liza Jones, sydd wedi treulio'r dyddiau diwethaf yn anfon cardiau Nadolig sy'n hyrwyddo eu hymgyrch.
Mae un ddeiseb eisoes wedi ei llofnodi gan 220 o bobl a'r llall, sydd ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cael dros 150 llofnod.
Yn ôl Jenny Jones: "Rydym yn credu bod hwn yn dirlun sy'n cael ei garu, ac mae'n bwysig yn gymdeithasol i bobl Caergybi i gael eu parc arfordirol".

Mae grŵp lleol yn pryderu bod y datblygiad yn rhy fawr i'r safle
"Rydym yn galw ar ein cynghorwyr lleol a'n Haelod Seneddol lleol, Albert Owen, i gydnabod hynny, ac i sylweddoli cymaint y mae pobl yn poeni am golli'r warchodfa natur."
Mae Mr Owen wedi dweud y gallai swyddi cynhyrchu a thwristiaeth gyd-fyw ar Ynys Môn a'i fod yn fater o gael y cydbwysedd yn iawn.
360 erw
Ym mis Medi cyhoeddwyd bod gan y cwmni opsiwn i brynu 360 erw o dir sy'n eiddo i Anglesey Aluminium Metals (AAM) ym Mharc Gwledig Penrhos.
Mae manylion am dir ar dri safle ym Mhenrhos, Cae Glas a Kingsland yng Nghaergybi ar wefan y cwmni.
Dywedodd y cwmni fod eu gweledigaeth ar gyfer Penrhos yn cynnwys creu pentref hamdden gyda chymysgedd o "letyau o safon uchel ac amrywiaeth o gyfleusterau hamdden a chwaraeon".