'Gyrfa nodedig'

  • Cyhoeddwyd
Coleg yr IesuFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth yn Athro Celteg ym Mhrifysgol Rhydychen

Mae teyrnged wedi ei rhoi i'r ysgolhaig Celtaidd, yr Athro D Ellis Evans, fu farw'n 83 oed.

Ganwyd David Ellis Evans yn 1930 yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin, a mynychodd Ysgol Ramadeg Llandeilo a Coleg yr Iesu yn Rhydychen lle cafodd ei ddoethuriaeth.

Roedd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe cyn dod yn athro yno.

Fe ddaeth yn Athro Celteg ym Mhrifysgol Rhydychen lle bu nes iddo ymddeol yn 1996.

Roedd yn arbenigo mewn iaith a diwylliant Celtaidd cynnar ac un o'i gyfraniadau pwysicaf oedd y gyfrol Gaulish Personal Place Names gafodd ei chyhoeddi yn 1967.

'Nodedig'

Dywedodd yr Athro Tudur Hallam, Athro'r Gymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe: "Tristwch mawr oedd clywed am farw'r Athro D Ellis Evans.

"Mae cyswllt Adran y Gymraeg â'r teulu'n para'n agos, a chydymdeimlwn â nhw yn eu colled.

"Yn ddeiliad dwy Gadair ac yn Gymrawd i'r Academi Brydeinig, cafodd yrfa academaidd nodedig a bu'n hael ei gymwynas i nifer o ysgolheigion a myfyrwyr."