Dechrau taith y baton cyn Glasgow 2014
- Cyhoeddwyd

Y seiclwr Syr Chris Hoy oedd yn cario'r baton i Balas Buckingham
Mae taith baton y Frenhines, sy'n cael ei chynnal cyn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, wedi dechrau ym Mhalas Buckingham.
Yn y baton mae neges y Frenhines i holl wledydd y Gymanwlad, a bydd yn mynd i bob un o'r 70 o wledydd fydd yn cystadlu yn y gemau.
Bydd y daith yn gorffen yn yr Alban yn seremoni agoriadol y gemau ar Orffennaf 23 2014 pan fydd y Frenhines yn darllen y neges.
Ar Fai 24 2014 bydd y baton yn teithio o amgylch Cymru am wythnos.
Cafodd y baton ei gario i'r palas gan Syr Chris Hoy, y seiclwr sydd wedi ennill chwe medal aur Olympaidd a dwy fedal aur o Gemau'r Gymanwlad.
190,000 o gilometrau
Rhoddodd y Frenhines ei neges y tu mewn a dechreuodd y daith 190,000 o gilometrau o hyd i Asia, Ynysoedd y De, Affrica, Gogledd a De America a'r Caribi.

Bydd y neges yn cael ei darllen yn seremoni agoriadol y gemau
Y cyntaf i gario'r baton oedd y rhedwr o'r Alban, Alan Wells, enillodd fedal aur yn y ras 100m yng Ngemau Olympaidd Moscow yn 1980.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond: "Gallai 2014 fod y flwyddyn orau erioed i'r gemau a bydd y daith yn ddathliad o chwaraeon a diwylliant dros wledydd y Gymanwlad, gyda Glasgow a'r Alban wrth galon hynny."
70 tîm
Mae 54 o wladwriaethau yn y Gymanwlad ond 70 o dimau, gan gynnwys gwledydd Prydain.
Bydd y baton ymhob bron pob gwlad am hyd at bedwar diwrnod ond bydd yng Nghymru am wythnos, yn Lloegr am bythefnos ac yn yr Alban am 40 diwrnod.
Bydd y baton yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd ar Fai 24 cyn mynd i Flaenau Gwent, Y Rhondda, Sir Ddinbych, Sir Gâr, Sir Fôn, Gwynedd a Sir Benfro.
Dros y Nadolig, bydd y baton yn Vanuatu, ynys yn y Môr Tawel, cyn dathliadau'r flwyddyn newydd yn Sierra Leone.
Yr ynys leiaf ar y daith yw Nauru sydd hefyd yn y Môr Tawel.
Ni fydd yn mynd i Gambia, wedi i'r wlad dynnu'n ôl o'r Gymanwlad yr wythnos diwethaf.
Cafodd y taith y baton ei chynnal am y tro cyntaf ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2013
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013