Cadeirydd newydd i Blaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dr Dafydd Trystan DaviesFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Dafydd Trystan Davies yn olynu Helen Mary Jones fel cadeirydd

Mae aelodau Plaid Cymru wedi ethol Dr Dafydd Trystan Davies yn gadeirydd newydd i olynu Helen Mary Jones.

Mae Dr Davies, a aned yn Aberdâr ac sy'n gweithio fel Cofrestrydd mewn Addysg Uwch, yn gyn Brif Weithredwr y blaid.

Roedd Ms Jones wedi bod yn ei swydd ers 2011 ond cyhoeddodd ym mis Awst na fyddai yn ceisio am ail enwebiad.

Meddai Dr Davies: "Rwyf wrth fy modd cael f'ethol yn gadeirydd Plaid Cymru. Fy nod yw adeiladu ar y sylfeini cryf a adawyd gan fy rhagflaenydd, Helen Mary Jones.

"Mae'r rhain yn amseroedd cyffrous i Blaid Cymru ac yr wyf i'n bwriadu chwarae fy rhan ym mharatoi'r blaid wrth i ni anelu tuag at etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016.

Ychwanegodd: "Fel cadeirydd, rwyf yn awyddus i gysylltu â'n haelodau ifanc, sicrhau canran uwch o ymgeiswyr benywaidd i gynrychioli'r Blaid ac i ddenu pobl o bob cefndir i Blaid Cymru. Rwyf hefyd eisiau clywed gan y sawl sydd â diddordeb mewn cyfrannu at Blaid Cymru, os ydynt yn aelodau o'r blaid neu beidio."

Cafodd Dr Davies, sy'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig Lisa, ei addysg yn Ysgol Rhydfelen a Phrifysgol Aberystwyth.