1,000 yn llai yn ddi-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan waith
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna 120,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd

Mae diweithdra wedi gostwng ychydig yng Nghymru, yn ôl ffigurau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae yna 120,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd - sy'n 8% o'r boblogaeth sydd o fewn oedran gwaith.

Mae hynny'n ostyngiad o 1,000 o'i gymharu â'r cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Mai - a 4,000 yn is na'r un cyfnod y llynedd.

Ar draws y DU mae diweithdra hefyd wedi gostwng ychydig, gyda 7.7% o'r gweithlu heb swydd ar hyn o bryd.

Rhwng misoedd Mehefin ac Awst, roedd yna 11,000 yn fwy o bobl mewn swyddi yng Nghymru o'i gymharu â'r tri mis blaenorol - ond roedd y ffigwr 3,000 yn is na'r un amser y llynedd.

'Heriau sylweddol'

Wrth ymateb i'r ffigyrau dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones AS eu bod yr arwydd positif o adfywiad economaidd.

"Mae mis arall o welliant yn yr ystadegau cyflogaeth yn dangos bod y llywodraeth yn gosod yr amodau am dwf a'n bod yn dechrau gweld budd hynny yng Nghymru.

"Mae'r gostyngiad mewn diweithdra ymysg ieuenctid yn arbennig o foddhaol.

"Dros y mis diwethaf rwyf wedi gweld gyda fy llygaid fy hun sut y mae busnesau Cymru yn ymateb i'r her. Mae gennym bentwr o fusnesau bach yng Nghymru sy'n dangos yr uchelgais angenrheidiol i yrru'r economi tuag at adfywiad.

"Ond does dim lle i laesu dwylo. Roedd cyhoeddiad First Milk eu bod am gau eu safle yn Wrecsam yn atgof bod heriau sylweddol o'n blaenau o hyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ffigyrau heddiw'n dangos bod cyflogaeth yng Nghymru wedi codi o 11,000 dros y chwarter diwethaf gyda chwymp o 1,000 mewn diweithdra dros yr un cyfnod.

"Mae'r ffigyrau yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi busnesau yng Nghymru. Yr wythnos ddiwethaf fe wnaethon ni gyhoeddi rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf i greu 11,000 o swyddi dros dair blynedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol