Hen theatr mewn perygl o ddymchwel
- Cyhoeddwyd
Mae Theatr y Palas yn Abertawe wedi cael ei enwi ar restr o'r deg adeilad sydd mewn perygl mwyaf yn y DU gan y Gymdeithas Fictoraidd.
Cafodd y rhestr o adeiladau Fictoraidd ac Edwardaidd ei llunio o blith enwebiadau gan y cyhoeddi yn dilyn apêl i ganfod adeiladau sy'n wynebu risg o ddymchwel neu, fel yn achos Theatr y Palas, fynd a'i ben iddo oherwydd diffyg defnydd.
Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd II ei god gan y penseiri Alfred Bucknall ac Edwards William Jennings yn 1888, ac er ei fod wedi cael ei ddefnyddio at sawl pwrpas dros y blynyddoedd, fe wnaeth ei enw fel theatr.
Ymhlith y sêr sydd wedi perfformio yno mae Charlie Chaplin, Marie Lloyd, Morecambe & Wise a Ken Dodd, ac yma yr ymddangosodd Sir Anthony Hopkins ar lwyfan am y tro cyntaf fel actor proffesiynol yn y ddrama 'Have a Cigarette' yn 1960.
Mae'r Gymdeithas Fictoraidd wedi bod yn cynnal ymgyrch i achub hen adeiladau o'r cyfnod ers saith mlynedd bellach ac yn 2012 fe roddwyd sylw i Dy Hendrefoilan ger Sgeti yn Abertawe.
Ers hynny mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud gwaith i adfer yr adeilad hwnnw.
Dros y blynyddoedd diweddar mae Theatr y Palas wedi cael ei ddefnyddio fel sinema a chlwb nos, ond nid yw wedi cael ei ddefnyddio o gwbl am oddeutu 20 mlynedd ac mae'r adeilad mewn cyflwr truenus.
Dywedodd Chris Costelloe o'r Gymdeithas Fictoraidd:
"Fe fydd gwaith atgyweirio yn ddrud iawn, ond ni all Abertawe fforddio colli adeilad o'r safon yma ac un sydd wedi bod wrth galon diwylliannol y ddinas am dros ganrif.
"Rydym yn falch iawn bod ymdrechion yn cael eu gwneud i sefydlu Ymddiriedolaeth Gwarchod Adeiladau i achub y Palas, ond mae'r cyfrifoldeb ar ysgwyddau Cyngor Abertawe i ganfod ateb tymor hir."