Cau ffyrdd oherwydd llifogydd
- Cyhoeddwyd

Y sefyllfa yn archfarchnad Tesco brynhawn Sadwrn
Mae'r heddlu wedi dweud bod rhai ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd yng Nghaerdydd.
Am 4yh ddydd Sadwrn dywedodd yr heddlu y dylai gyrwyr osgoi ardal Croes Cwrlwys wedi i ffyrdd i Marks a Spencer a Tesco gael eu cau.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y sefyllfa'n gwella yn ddiweddarach," meddai llefarydd am 4yh.
Oherwydd llifogydd cafodd Heol y Felin ei chau yn ardal Trelái.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân fod chwe injan dân wedi eu galw i wahanol ardaloedd yn y brifddinas.