Cynnig i ddatblygu addysg ddeintyddol yn y gogledd a'r canolbarth

O dan y cynnig, byddai'r ysgol yn cael ei harwain ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae cynnig wedi cael ei gyflwyno i ddatblygu addysg ddeintyddol ledled gogledd a chanolbarth Cymru.
Mae'r cynllun ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth ac wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
O dan y cynnig, byddai'r ysgol yn cael ei harwain gan y ddwy brifysgol ac yn darparu addysg ddeintyddol i gryfhau gofal sylfaenol a chymunedol mewn cymunedau gwledig a Chymraeg eu hiaith.
Roedd datganiad ar wefan Prifysgol Bangor yn dweud mai nod y cynllun, sydd ar y cyd gyda'r byrddau iechyd a Phrifysgol Caerdydd, ydy "creu cyfleoedd hyfforddi deintyddol newydd".
Y gobaith, meddai'r datganiad, ydy "mynd i'r afael â'r angen am addysg a gwasanaethau deintyddol gwell yng ngogledd a chanolbarth Cymru".
'Elwa o'r ddarpariaeth bresennol'
Yn ôl Prifysgol Bangor byddai angen sefydlu canolfannau addysg ddeintyddol ar draws y ddau ranbarth, wedi'u rheoli gan y ddwy brifysgol.
Byddai'r cynllun yn canolbwyntio ar anghenion gofal deintyddol sylfaenol a chymunedol, gan gynnwys anghenion siaradwyr Cymraeg.
Ychwanegodd Prifysgol Bangor y byddai'r ysgol yn "elwa o'r ddarpariaeth bresennol yn y ddwy brifysgol".
Mae hynny'n cynnwys "portffolios rhaglenni iechyd a deintyddol Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor ac arbenigedd Prifysgol Aberystwyth mewn addysg nyrsio ac iechyd gwledig".
Deintyddiaeth yng Nghymru 'ddim yn esiampl i Loegr'
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024
Gollwng cynllun deintyddol dadleuol ond mwy o aros i rai
- Cyhoeddwyd23 Medi
Deintyddiaeth drwy'r GIG 'ar y dibyn' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
Dywedodd yr Athro Iain Barber, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth, eu bod yn "falch iawn" o'r datblygiad.
Ychwanegodd ei fod "mor bwysig i gymunedau yn y gogledd ac yng nghanolbarth Cymru" a bod prinder o weithwyr deintyddol proffesiynol mewn cymunedau lleol".
"Rydym yn gwybod y gallai'r cynnig hwn wneud gwahaniaeth – mae tystiolaeth o'r proffesiwn meddygol yn dangos cysylltiad cryf rhwng ble mae myfyrwyr yn hyfforddi a ble maen nhw'n dewis ymarfer."
Dywedodd yr Athro Nicola Innes, Pennaeth Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd ei bod yn "croesawu'r cyfle i gyfrannu at gynlluniau cychwynnol i ddatblygu ysgol ddeintyddiaeth newydd yng Nghymru".
"Fel sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion a phartneriaid eraill Cymru i sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi ar gael mewn rhannau eraill o Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.