Hwb i ardaloedd menter Cymru?

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y gallai un o bolisiau datblygu economaidd ei lywodraeth - ardal fenter yng nghanol Caerdydd ar gyfer y gwasanaethau ariannol - greu 3,000 o swyddi yn y pen draw.

Daeth sylwadau Carwyn Jones fore Llun, wrth iddo gyhoeddi 100 o swyddi ychwanegol yng nghanolfan cwmni Deloittes yn yr ardal fenter.

Cyhoeddodd hefyd y bydd banc buddsoddi Llywodraeth Cymru, Cyllid Cymru, yn gostwng ei chyfraddau llog 2% ar gyfer cwmniau ym mhob un o ardaloedd menter Cymru.

Wrth ymateb i'r gostyngiad mewn cyfraddau llog ar gyfer yr ardaloedd menter, galwodd Ffederasiwn y Busnesau Bach adolygiad o holl gyfraddau llog Cyllid Cymru.

Tra'n croesawu'r swyddi newydd yn Deloittes, a'r cyhoeddiad am gyfraddau llog, dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar fusnes, Nick Ramsay:

"Yn y ddwy flynedd ers cyhoeddi ardal fenter Canol Caerdydd, ychydig iawn sydd wedi ei gyhoeddi, a phrin yw'r manylion sydd wedi eu rhyddhau."

"Mae yna ffordd bell i fynd ar bob ardal fenter yng Nghymru ac rwy'n falch fod peth cynnydd yn cael ei wneud o'r diwedd."

Galwodd Mr Ramsay hefyd ar Lywodraeth Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth o Gyllid Cymru o fewn y gymuned fusnes.

Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Eluned Parrott mai nod yr ardal fenter yng nghanol Caerdydd oedd creu lleoliad fyddai'n gystadleuol yn rhyngwladol ar gyfer y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol:

"Y cyhoeddiad hwn gan Deloitte yw'r arwydd cynta o unrhywbeth fel hyn yn digwydd ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu'n gyflym er mwyn sicrhau nad dyma'r olaf."