Womex: Gwrthod fisa i bum cerddor
- Cyhoeddwyd
Mae pump o gerddorion o Syria oedd i fod i berfformio yng Ngŵyl Womex wedi cael eu gwrthod rhag dod i mewn i'r DU.
Mae'r cerddorion yn rhan o Ensemble Al-Kindi, ac roedden nhw i fod i berfformio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd nos Iau.
Mewn llythyr at Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd Kevin Brennan, dywedodd y gweinidog mewnfudo Mark Harper nad oedd cwmni rheoli'r cerddorion wedi rhoi digon o dystiolaeth eu bod yn medru talu am y daith, a'u bod felly wedi cael eu gwrthod.
Dywedodd Mr Harper bod y grŵp hefyd wedi methu darparu tystiolaeth ddigonol eu bod yn bwriadu gadael y DU ar ddiwedd eu harhosiad.
"Nid oedd posibl dderbyn eu hanes teithio blaenorol, cynlluniau i deithio ymlaen na bod ganddynt fisa Schengen dilys fel tystiolaeth eu bod yn bwriadu gadael y DU," meddai'r llythyr.
Yn y llythyr mae Mr Harper yn mynd ymlaen i ddweud: "Rwy'n derbyn bod y penderfyniad i wrthod ceisiadau am fisa yn siomedig yn enwedig gan fod y digwyddiad wedi cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru."
Cadarnhaodd bod y penderfyniad i wrthod ceisiadau fisa wedi cael ei adolygu yn dilyn cais gan Mr Brennan, ond nad oedd yn bosibl gwyrdroi'r penderfyniad gwreiddiol.
Wrth ymateb dywedodd Mr Brennan: "Mae hwn yn benderfyniad cywilyddus gan y gweinidog mewnfudo sy'n niweidio enw da diwylliannol y DU ac yn taflu cysgod dros ddathliad bendigedig o gerddoriaeth y byd sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd.
"Yr hyn sy'n gwneud pethau'n waeth yw bod pentwr o dystiolaeth o hanes teithio'r grŵp yma yn y gorffennol, a'u cynlluniau i deithio yn y dyfodol.
"Dylai fod cywilydd ar lywodraeth y DU."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd28 Medi 2011