Llai o aros am driniaeth canser
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion canser yng Nghymru'n aros llai am driniaeth, yn ôl yr ystadegau diweddara' gan Lywodraeth Cymru.
Ond mae'r data hefyd yn dangos fod nifer o fyrddau iechyd yn dal i fethu cwrdd â thargedau o ran achosion brys.
Yn ôl y gwrthbleidiau, mae angen gwneud mwy i wella'r sefyllfa.
Er bod y ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru yn dangos gwelliant, maent hefyd yn awgrymu fod y chwe bwrdd sy'n ymwneud â thriniaeth ganser wedi methu cwrdd â thargedau'r llywodraeth o ran trin yr achosion mwya' brys.
Yn ôl ffigurau ar gyfer mis Awst eleni, roedd 88.6% (428 allan o 483) o gleifion canser oedd ag achosion brys wedi dechrau triniaeth o fewn 62 niwrnod o gael diagnosis - oedd yn uwch na'r 84.5% ym mis Gorffennaf.
Ond mae hyn yn llai na'r isafswm o 95% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dros yr haf.
Yn y cyfamser, roedd rhywfaint o welliant yn yr amseroedd aros ar gyfer achosion canser eraill. Ym mis Awst, roedd 98.5% (775 allan o 787) o gleifion nad oedd ag achosion brys wedi dechrau triniaeth o fewn 31 niwrnod, o'i gymharu â 98.2% y mis blaenorol.
Roedd pump o'r chwe bwrdd wedi cwrdd â tharged y llywodraeth, o gynnig triniaeth i 98% o gleifion canser oedd newydd gael diagnosis - oedd ddim yn achosion brys - o fewn 31 niwrnod. Dim ond pedwar bwrdd iechyd a lwyddodd i wneud hyn y mis blaenorol.
'Erbyn mis Hydref'
Mae'r ffigurau diweddara' yn deillio o ddata cychwynnol a gasglwyd hyd at ddiwedd mis Awst.
Ym mis Gorffennaf, wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor iechyd, fe addawodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod 'na gynlluniau wedi'u cyflwyno i sicrhau y byddai modd cwrdd â'r targedau erbyn mis Hydref.
Ar y pryd, dywedodd: "Mae yna gynlluniau wedi'u cyflwyno...fyddai'n arwain at y gwasanaeth iechyd ar draws Cymru yn cwrdd â'r targedau 31 a 62 niwrnod erbyn mis Hydref eleni. Mae rhai cynlluniau'n edrych yn fwy gwydn nag eraill ac mae yna gyfnod o arbrofi'n digwydd yn yr adrannau hynny, felly gallwn fod yn hyderus fod mis Hydref yn ddyddiad dibynadwy o ran cyflawni a chynnal hyn."
Bydd y ffigurau ar gyfer mis Hydref yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Does yr un o'r byrddau iechyd yng Nghymru wedi llwyddo i gyrraedd y targed hwn dros y blynyddoedd diwetha'.
'Argyfwng'
Mewn ymateb i'r ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Mercher, galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am wneud mwy i gwtogi ar amseroedd aros.
Dywedodd eu llefarydd iechyd, Darren Millar AC: "Mae unrhyw welliant yn gam i'r cyfeiriad cywir - ond mae'n amlwg fod angen gwneud mwy ar frys.
"Mae hwn yn darged hollbwysig, sydd heb ei gyflawni ers pum mlynedd...Mae amseroedd aros yn parhau yn argyfwng a bydd penderfyniad diweddar i ganslo rhai llawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ond yn gwaethygu pethau.
"Mae aros yn rhy hir i ddechrau triniaeth yn artaith i gleifion canser a'u teuluoedd a gall amharu ar eu siawns o wella.
"Mae toriadau hanesyddol Llafur i'r gwasanaeth iechyd wedi arwain at bwysau aruthrol ar staff rheng flaen ac rwy'n annog y Prif Weinidog i warantu gwelliannau'n syth."
'Gwarthus'
Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Unwaith eto mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu cadw'i haddewidion.
"Nid yw'r targedau amseroedd aros canser wedi cael eu cadw ers 2008. Roedd unrhyw un yn gallu gweld ei bod yn hynod annhebygol y byddai'r targedau'n cael eu cwrdd erbyn mis Hydref, sy'n codi cwestiwn pam mai'r Gweinidog Iechyd oedd yr unig un oedd yn ddigon naïf i gredu fel arall.
"Mae cael diagnosis o ganser yn brofiad brawychus. Mae'n warthus bod pobl yn gorfod aros am dros ddeufis cyn i'w triniaeth ddechrau.
"Mae staff y GIG yn gweithio'n galed iawn ac yn gwneud eu gorau, ond yn anffodus mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi camreoli ein GIG ac mae cleifion yn diodde' o'r herwydd."
'Am wneud mwy'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC:
"Er bod arwyddion o welliant wedi bod mewn rhai o'r byrddau iechyd yn ddiweddar, mae amseroedd aros i bobl â chanser yn annerbyniol ac islaw targedau Llywodraeth Cymru.
"Mae'n glir bod cleifion canser wedi cael eu gadael i lawr, ac fe ddylai Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy i sicrhau bod y targedau'n cael eu cwrdd.
"Dyna pam y gwnaeth Plaid Cymru sicrhau cyllid ychwanegol i'r GIG gan gynnwys prynu technoleg newydd i gynorthwyo triniaeth i ganser y prostad.
"Ond rydym am wneud mwy. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn darparu nyrs ganser arbenigol i bobl claf er mwyn eu harwain drwy'r driniaeth a'r gwellhad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd29 Mai 2013
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013