Band eang: Cwyno am wasanaeth anghyson

  • Cyhoeddwyd
Cysylltiad Band EangFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Resqnet yn dweud bod gwaith yn cael ei wneud i wella'r rhwydwaith

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu atal cwmni o Sir Gaerfyrddin rhag gwneud cais am grantiau band eang yn dilyn cwynion gan gwsmeriaid am wasanaeth anghyson.

Dywed cwsmeriaid cwmni Resqnet eu bod wedi cael addewid o wasanaeth hynod o gyflym gan y cwmni o Cross Hands sy'n darparu gwasanaeth di wifren i ardaloedd gwledig.

Mewn datganiad i BBC Cymru dywedodd Llywodraeth Cymru fod Resqnet wedi derbyn bron £900,000 o arian cyhoeddus fel rhan o gynllun i wella gwasanaeth eang i ardaloedd penodol.

Cafodd Cynllun Cefnogi Band Eang Cymru ei sefydlu yng Ngorffennaf 2010 gyda'r nod o ddarparu band eang cyflym led led Cymru.

Roedd gant o £1,000 ar gael i gartrefi mewn ardaloedd lle'r oedd darparu band eang cyflym wedi profi'n broblem.

Fel rheol roedd yr arian yn cael ei dalu yn uniongyrchol i gyflenwyr, gan olygu na fyddai trigolion yn gorfod talu unrhyw gostau ar gyfer offer neu dal cysylltu.

Cyflymdra

Mae pobl o wahanol rannau o Sir Gaerfyrddin wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi cael addewid gan Resqnet y byddant yn cael cyflymdra o 5mbps - ond fod y gwasanaeth dros y misoedd diwetha wedi bod yn anghyson.

Mae John Sydney o Daliaris ger Llandeilo wedi canslo ei danysgrifiad i Resqnet oherwydd ei rwystredigaeth gyda'r gwasanaeth.

Dywedodd ei fod yn hapus gyda'r gwasanaeth yn yr ystod y misoedd cyntaf o ran y cyflymdra oedd yn cael ei ddarparu gan Resqnet, ond fod y gwasanaeth wedi dirywio tua chwe mis yn ôl.

"Rydym wedi gweld cyflymdra isel a'r gwasanaeth yn cael ei ddatgysylltu nifer o weithiau....roedd y peth yn hynod rwystredig.

Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn "cadw llygad ar y cyflenwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd a'u cytundeb..."

Dywedodd Roger Thomas o bentre' Cwmdu ger Llandeilo ei fod yntau wedi cael profiad tebyg.

Yn y pendraw, meddai, penderfynodd ddychwelyd i ddefnyddio cysylltiad BT gan ddweud fod gwasanaeth Resqnet yn annibynadwy.

"Mae £24 y mis yn lot o arian ar gyfer gwasanaeth sydd ddim yn gweithio."

Roedd y ddau gwsmer wedi gwneud cais am gymorth gan Gynllun Cefnogaeth Band Eang Cymru.

Cafodd grant o £1,000 ei dalu i Resqnet gan Lywodraeth Cymru.

Gwefan

Mae BBC Cymru hefyd wedi clywed am broblemau ym mhentref Llanedi.

Dywed Resqnet ar eu gwefan, dolen allanol eu bod yn rhoi gwasanaeth i o leiaf 47 o gymunedau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe.

Hefyd mae'n ymddangos fod yna dystiolaeth o nifer o broblemau technegol a gwelliannau i'r gwasanaeth.

Mae rhai cwsmeriaid wedi sefydlu tudalen Facebook , dolen allanolyn mynegi pryderon.

"Annerbyniol"

Yn eu datganiad dywed Llywodraeth Cymru fod ymddygiad Resqnet yn "annerbyniol".

Dywed y Llywodraeth eu bod yn gweithio gyda Resqnet er mwyn "sicrhau eu bod yn cwblhau gofynion eu cytundeb i gwsmeriaid. "

Hefyd dywed y datganiad fod yna "beirianwaith ar gael i adfer arian a dalwyd mewn rhai amgylchiadau.."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae'n annerbyniol fod Resqnet wedi gadael eu cwsmeriaid lawr yn y modd yma, ac rydym yn disgwyl iddynt gymryd camau cyflym a phendant i adfer y sefyllfa.

"Tra nad oes gennym unrhyw berthynas fasnachol gyda Resqnet, rydym yn gweithio gyda hwynt er mwyn sicrhau eu bod yn cwblhau eu gofynion cytundebol i gwsmeriaid.

"Yn y cyfamser rydym wedi penderfynu gohirio'r broses o brosesu ceisiadau am grantiau tan ein bod yn derbyn tystiolaeth gan gwsmeriaid eu bod yn derbyn gwasanaeth boddhaol.

"Pan rydym yn derbyn cwynion am ddarparwyr rydym yn cysylltu â'r darparwyr yn uniongyrchol ac yn eu hannog i gysylltu â'r cwsmer er mwyn mynd i'r afael a'r broblem.

"Tra bod y cytundeb rhwng y darparwr a'r cwsmer, mae yna beirianwaith ar gael mewn rhai amgylchiadau i gael yr arian yn ôl."

"Rydym wedi rhoi £892,000 mewn grantiau i drigolion a busnesau oedd yn dweud iddynt ddewis Resqnet fel eu darparwr gwasanaeth."

Gwella'r rhwydwaith

Dywedodd Clive Downey, cyfarwyddwr gyda Resqnet fod y defnydd o'r rhyngrwyd "yn llawer mwy na'r hyn o ni'n ei ddisgwyl.

Ychwanegodd y byddai gwaith yn cael ei gwblhau cyn bo hir i wella'r rhwydwaith erbyn diwedd Hydref.

"Rydym yn gwmni bach arloesol sydd wedi llwyddo dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner i ddod a band eang 'real" lle mae cwmnïau mwy wedi methu.

"Rydym yn benderfynol i barhau a hyn ac i oresgyn problemau sy'n codi o bryd i'w gilydd a hynny drwy fuddsoddi ac arloesi. Y nod yw rhoi dewis go iawn i ddefnyddwyr band eang yn y gorllewin.

"Rydym hefyd yn fwy ymwybodol o'r cyfyngiadau a bydd ein strategaeth busnes nawr yn adlewyrchu hyn. Rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y gwasanaeth i'r ardaloedd dan sylw.

"Mae nifer o gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio gan broblemau diweddar wedi cael iawndal, a bydd eraill yn derbyn iawndal sy'n cyd-fynd a gofynion eu cytundebau. "

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol