Rhybudd oherwydd tywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Glaw
Disgrifiad o’r llun,

Bydd glaw trwm yn effeithio ar ardaloedd y de o oriau mân y bore ymlaen.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud bod llifogydd yn bosib' oherwydd y tywydd garw.

Dywedodd y byddai glaw trwm yn effeithio ar ardaloedd y de o oriau mân y bore ymlaen.

"Mae disgwyl tywydd ansefydlog iawn dros y dyddiau nesa'," meddai Owain Wyn Evans, cyflwynydd tywydd BBC Cymru.

"Mae system o bwysedd isel yn y Môr Iwerydd yn debygol o arwain at dipyn o law trwm heno 'ma ar draws Cymru ac mae'r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyflwyno rhybudd melyn yn achos rhan helaeth o dde Cymru.

"Bydd y gwyntoedd yn cryfhau hefyd, yn enwedig ger y glannau, ac mae disgwyl rhagor o law trwm dros y Sul.

"Erbyn dydd Llun bydd y gwyntoedd yn cryfhau unwaith eto ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybudd am wyntoedd cryfion ddydd Llun ar draws y gogledd yn benna'."

Dylai gyrwyr fod yn ofalus fore Gwener a dylai pawb wrando ar fwletinau radio a chwilio am wybodaeth ar wefannau.