Casnewydd: lleoliad uwchgynhadledd Nato
- Cyhoeddwyd
Mi fydd uwchgynhadledd Nato yn digwydd yng Nghasnewydd yn y Celtic Manor blwyddyn nesaf.
Mi gyhoeddodd y Prif Weinidog David Cameron hyn tra ar ymweliad gyda Chymru ddydd Iau.
Dywedodd David Cameron: "Mae hyn yn foment fawr i Gymru i roi ei hun ar y map. Dyma gyfle Cymru i groesawu un o'r digwyddiadau mawr."
Ym mis Medi mi ddywedodd rhif 10 Downing Street y byddai'r Deyrnas Unedig yn cynnal y digwyddiad, ond doedd dim manylion am y lleoliad.
Dyw'r uwchgynhadledd ddim wedi bod ym Mhrydain ers 1990.
Aberth milwyr
Mae 'na' 28 o wledydd yn aelodau o Nato a'r bwriad ydy cydweithredu ar faterion amddiffyn a diogelwch er mwyn ceisio osgoi rhyfeloedd.
Mewn datganiad ym mis Medi mi ddywedodd David Cameron bod yr uwchgynhadledd yn gyfle i arweinwyr y byd gydnabod yr aberth sydd wedi ei wneud gan ymgyrchoedd diweddar Nato yn Afghanistan.
Mae 87,000 o filwyr yn y wlad honno o dan orchymyn Nato ond mi fydd y mwyafrif yn gadael erbyn diwedd 2014.
Dywedodd hefyd y bydd yn rhoi siawns i'r aelodau drafod dyfodol y corff. "Mae Prydain wastad wedi bod ar flaen y gâd o ran siapio'r gynghrair ers y cychwyn yn 1949 tan y presennol.
"Mi fydd uwchgynhadledd 2014 yn allweddol er mwyn sicrhau bod Nato yn parhau yn fodern, yn berthnasol ac yn gorff grymus fydd yn medru addasu ar gyfer y 21ain Ganrif."
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi trydar ei fod yn hapus gyda'r newyddion: "Dw i'n croesawu'r newyddion y bydd uwchgynhadledd Nato yn digwydd yma a'r cyfle mae'n cynnig i arddangos Cymru i'r byd."