Pwerau newydd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd refferendwm arall i benderfynu a fydd Llywodraeth Cymru'n cael rhai pwerau i amrywio treth incwm

Fe fydd Cymru'n cael mwy o bwerau benthyg a threthu, ac fe fydd refferendwm i benderfynu a fydd rhai pwerau treth incwm hefyd yn cael eu datganoli.

Dyna yw neges y Prif Weinidog David Cameron, ac mae'r cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud gan Mr Cameron ar y cyd gyda'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg mewn cynhadledd newyddion yng Nghaerdydd.

Ond mewn erthygl gan y ddau ar y cyd ym mhapur y Western Mail fore Gwener, mae amlinelliad o rai o argymhellion Comisiwn Silk fydd yn cael eu gweithredu:-

  • Bydd rhai pwerau benthyg yn cael eu datganoli i Fae Caerdydd, gan alluogi Llywodraeth Cymru i fwrw 'mlaen gyda chynllun ffordd liniaru traffig yr M4 ger Casnewydd;

  • Bydd treth stamp yn cael ei ddatganoli i Gymru, gan alluogi Llywodraeth Cymru i godi arian ar bethau fel codi tai fforddiadwy;

  • Bydd refferendwm yn cael ei chynnal i benderfynu a fydd rhai pwerau treth incwm hefyd yn cael eu datganoli.

Cafodd Comisiwn Silk, dolen allanol - sydd wedi ei enwi ar ôl y cadeirydd Paul Silk - ei sefydlu gan lywodraeth San Steffan i ystyried datganoli pellach, a pha bwerau ychwanegol (os o gwbl) y dylid eu datganoli.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad cyntaf, dolen allanol yn Nhachwedd 2012, ac mae disgwyl wedi bod ers hynny am ymateb San Steffan i'r argymhellion.

'Rhannu'r gwobrau'

Mae Mr Cameron a Mr Clegg eisoes wedi cwrdd â Carwyn Jones i drafod manylion y refferendwm, ac mae'r cyhoeddiad swyddogol yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Yn eu herthygl, dywedodd Mr Cameron a Mr Clegg:

"Rydym yn dod i Gymru gyda neges syml - wrth i'r economi droi cornel rhaid i ni sicrhau bod pobl yma yn rhannu yn y gwobrau.

"Mae penderfyniadau am ddyfodol Cymru wedi cael eu gwneud gannoedd o filltiroedd i fwrdd yn San Steffan am lawer rhy hir - ac mae Cymru wedi dioddef o ganlyniad.

"Gallai Cymru elwa'n aruthrol os fyddai'r llywodraeth ym Mae Caerdydd yn gyfrifol am godi mwy o'r arian y mae'n ei wario.

"Rydym yn falch felly o ddweud bod y llywodraeth glymblaid yn mynd i groesi'r garreg filltir nesaf mewn datganoli Cymreig.

"Dyma lywodraeth sy'n credu mewn datganoli ac yn benderfynol o gyflawni ar ddatganoli. Os fydd y cydbwysedd yn iawn rhwng Llywodraeth y DU a sefydliad datganoledig yna fe gewch chi'r gorau o'r ddau fyd."

Argymhellion eraill

Doedd dim son yn yr erthygl am weddill yr argymhellion oedd yn adroddiad cyntaf Comisiwn Silk a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae Carwyn Jones a nifer o gyrff ac unigolion eraill wedi dweud sawl tro dros y misoedd diwethaf fod cymeradwyo argymhellion Comisiwn Silk yn hanfodol i ddyfodol Cymru.

Nawr bod hynny - yn rhannol o leiaf - wedi ei gadarnhau, mae pwysau ar ysgwyddau Mr Jones a'i lywodraeth i ddangos y bydd y pwerau ychwanegol yn eu galluogi i wneud gwahaniaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol