'Diwrnod pwysig i Gymru'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o wleidyddion amlycaf y Cynulliad a San Steffan wedi croesawu'r penderfyniad i ddatganoli rhai pwerau ariannol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones fod y datblygiad yn dangos ymrwymiad i adnewyddu isadeiledd Cymru.
Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad ond yn dweud nad yw'n mynd yn ddigon pell.
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams y dylai'r datblygiad "hogi meddyliau" ym Mae Caerdydd.
'Diwrnod pwysig i Gymru'
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod heddiw'n "ddiwrnod pwysig i Gymru".
"Rydym bellach yn cael ein trin fel cydraddolion yn y DU," meddai.
"Mae cyhoeddiad heddiw'n mynd ymhell i ddangos bod datganoli'n gweithio ac yn cryfhau'r DU ymhellach."
Mewn cynhadledd newyddion ddydd Gwener dywedodd Mr Jones fod gwella'r M4 yn "esiampl o sut y gallai'r pwerau newydd gael eu defnyddio" ond bod posibiliadau eraill yn cynnwys pont newydd rhwng Môn ac Arfon a gwelliannau ychwanegol i'r A55.
Awgrymodd Mr Jones hefyd y gallai arian gael ei wario ar "ddatblygiadau sylweddol" i ysbytai.
Bydd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt nawr yn bwrw 'mlaen gyda sefydlu "Trysorlys Cymreig".
Dywedodd: "Mae'r newidiadau hyn yn golygu y bydd Cymru, yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, mewn sefyllfa i gwblhau'r gwelliannau sydd eu hangen i'r M4, a phennu ei threthi ei hun, gan gynnwys diwygio treth dir y dreth stamp.
"Dyma rywbeth y mae gwir angen ei wneud. Yn y dyfodol bydd y Cynulliad hefyd yn gallu galw refferendwm ar ddatganoli pwerau i amrywio trethi ar gyfer treth incwm."
'Diwedd yr esgusodion'
Wrth siarad cyn y cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Andrew RT Davies: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gyson wedi ymgyrchu i arghymellion Silk gael eu gweithredu yn llawn. Bydd hyn yn rhoi diwedd ar ddiwylliant y blaid Lafur o wneud esgusodion.
"Mae llywodraeth ddiog Carwyn Jones wedi dangos pa mor hawdd yw hi i wario arian pobl eraill heb gymryd cyfrifoldeb am godi'r arian. Ond nawr mae'r amser wedi dod i Lafur roi'r gorau i gwyno a chyflwyno cyfrifoldeb cyllidol.
"Mae heddiw'n nodi diwedd diwylliant dioddefwr Llafur Cymru ac mae'n amser i weinidogion Llafur ddechrau ymddwyn fel llywodraeth aeddfed gyda'r cyfrifoldeb am sicrhau gwerth am arian ar gyfer y trethdalwyr.
"Rydw i'n falch fod y Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio gyda'r Ceidwadwyr mewn llywodraeth er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd er budd pobl Cymru."
'Dim digon pellgyrhaeddol'
Er bod Plaid Cymru'n croesawu'r trosglwyddiad o bwerau newydd, dyw arweinydd y blaid Leanne Wood ddim yn credu eu bod yn mynd ddigon pell.
Dywedodd: "Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am godi rhan sylweddol o'i refeniw - yn dilyn arfer gwledydd eraill yr OECD. Mae Plaid Cymru yn fras yn croesawu'r cyhoeddiadau a wnaed y bore hwn ar bwerau ariannol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, er y buasai'n well gennym ni iddynt fynd ymhellach.
"Mae Plaid Cymru wedi pwyso am weithredu argymhellion Silk o'r cychwyn cyntaf, ac y mae'n dda gweld fod llywodraeth y DG o'r diwedd wedi symud ymlaen, er iddynt wneud llai na gweithredu llawn.
"Mae posibiliadau mawr gan bwerau benthyca i adfywio'r economi ledled Cymru, a gallant adael i ni chwyldroi ein seilwaith trafnidiaeth a chyfathrebu ym mhob cwr o'r wlad.
"Mae band llydan, ail-agor rheilffyrdd a gaewyd gan Beeching, rhaglen genedlaethol o adeiladu tai, buddsoddi mewn adeiladau ysgol, a chynllun effeithiolrwydd ynni i'r cartref oll yn gynlluniau parod i gychwyn fydd yn creu swyddi."
'Hogi meddyliau'
Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn awyddus i esbonio sut bydd y newidiadau yn effeithio pobl ar lawr gwlad.
"Tra bydd pob sy'n hoffi materion cyfansoddiadol a phobl academaidd yn edrych ar y manylion ac yn dadlau dros gyhoeddiad heddiw, rwyf eisiau i bobl Cymru ddeall sut y bydd hyn yn effeithio ar eu bywydau.
"Am y tro cyntaf mae faint o arian mae llywodraeth Gymreig yn ei wario wedi ei gysylltu yn uniongyrchol i'w llwyddiant yn hybu datblygiad economaidd.
"Dylai hynny hogi meddyliau ym Mae Caerdydd a byddai hefyd yn dod â lefel o atebolrwydd i Gymru sy'n bodoli o fewn bron i bob un senedd arall."