Hedd Perffaith Hedd
- Cyhoeddwyd
- comments
Hwre! O'r diwedd daeth ymateb i argymhellion rhan gyntaf ymchwiliad Comisiwn Silc. Derfydd melfed, derfydd sidan ond ar adegau roedd hi'n ymddangos na fyddai 'na ddiwedd ar saga silk! O'r diwedd cafwyd cymod a chytundeb.
Pam yr oedi a pham nawr? Gwnes i ofyn y cwestiwn yna wrth David Cameron y bore yma. Roedd hi'n cymryd amser i gael pethau'n iawn oedd yr esboniad cwbwl anorfod.
Os ydych chi'n gwrando ar fersiwn llywodraeth Cymru o'r stori roedd yr argymhellion yn boddi yng nghors anobaith nes i Carwyn Jones rhoi cic ym mhen ôl David Cameron mewn cynhadledd rynglywodraethol ddiweddar.
Beth bynnag yw'r gwir mae'n ymddangos bod David Cameron yn y diwedd yn ddigon hapus i ildio'r pwerau trethi i Gymru a bod Carwyn Jones yn ddigon hapus i'w derbyn.
Beth yw'r amserlen o hyn ymlaen felly?
Wel fe fydd rhai o'r pwerau benthyg yn gallu cael eu trosglwyddo'n syth - hen bwerau benthyg Awdurdod Datblygu Cymru yw'r rheiny. Fe fydd angen deddfwriaeth i gyflawni'r gweddill o'r argymhellion ac fe ddylai'r ddeddfwriaeth honno gyrraedd y llyfr statud rhywbryd cyn etholiad cyffredinol 2015.
O fod yn realistig mae'n annhebyg y bydd yr argymhellion yn cael fawr o effaith cyn etholiad Cynulliad 2016 - er y bydd y pleidiau i gyd yn cynnwys cynlluniau i'w defnyddio yn eu maniffestos.
Y cwestiwn nesaf yw pryd y mae refferendwm ar drosglwyddo pwerau dros dreth incwm yn debyg o gael ei gynnal?
Mae Carwyn Jones yn mynnu na ddylai hynny ddigwydd cyn diwygio fformiwla Barnett. Serch hynny mae'n werth cofio bod Llafur yn llugoer ynghylch y refferendwm ar bwerau deddfi. Canlyniad y trafodaethau clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru oedd refferendwm 2011.
Gallasai amseriad y refferendwm nesaf yn hawdd ddibynnu ar ganlyniad yr etholiad Cynulliad nesaf a p'un ydy Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gosod cynnal pleidlais fel amod mewn trafodaethau clymblaid.