Clirio i fyny'n parhau yn Aberystwyth wedi'r storm
- Cyhoeddwyd
Ton Aber
Mae gwaith clirio'n parhau yn Aberystwyth a rhannau eraill wedi i donnau achosi difrod yn ystod y storm dros y penwythnos.
Cafodd graean ei daflu ar y ffordd oherwydd y tonnau ac mae rhannau o'r promenâd wedi cael eu difrodi.
Yn ogystal effeithiodd y llifogydd ar rai busnesau.
Dywedodd ffotograffydd lleol fod yr olygfa fel petai rhyfel wedi bod.
"Dw i heb weld storm mor fawr â hon yn Aberystwyth ers degawdau," meddai Keith Morris.
"Roedd blociau gwenithfaen mawr yn cael eu codi droedfeddi i'r awyr."

Dywedodd y ffotograffydd Keith Morris ei fod yn lwcus i fod yn fyw wedi i don anferth ei daro i'r llawr yn Aberystwyth

On Sunday morning found tonnes of shingle had been washed up on the promenade and sea defences had been damaged

Bydd gweithwyr yn atgyweirio'r difrod achoswyd gan y storm

Effeithiodd y storm ar wal y môr
£4,000
Fe gollodd gamera gwerth £4,000 wrth iddo geisio tynnu lluniau.
"Fe ges i fy nharo i lawr gan don anferth," meddai.
"Rwy'n lwcus i fod yn fyw - gallai fod wedi fy nhynnu i mewn i'r môr."
Derbyniodd Cyngor Sir Gâr dros 60 o alwadau yn ystod nos Sadwrn gan bobl oedd yn ffonio i ddweud bod coed wedi syrthio, bod adeiladau wedi cael eu difrodi a bod llefydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd.
Dywedodd Paul Murray sy'n gweithio i'r cyngor fel rheolwr cynnal a chadw: "Rydyn ni wedi delio gyda nifer o ddigwyddiadau dros y penwythnos ac mae ein timau yn mynd ati i glirio coed sydd wedi cwympo ledled y sir.
"Rydyn ni wedi blaenoriaethu'r gwaith ac yn delio'n gynta' â'r problemau allai arwain at y perygl mwyaf.
"Byddwn wedyn yn edrych ar lefydd eraill fel parciau a mannau agored."
Cafodd y gwyntoedd cryfaf eu cofnodi yn Abertawe - 89mya yn ystod prynhawn Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2013