Llifogydd Rhuthun: Mynnu atebion
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn Rhuthun gafodd eu heffeithio gan lifogydd difrifol y llynedd yn mynnu atebion ynglŷn â pam nad yw eu tai yn cyd-fynd gyda'r cynlluniau adeiladu ar eu cyfer.
Mae'r rhaglen Week In Week Out wedi darganfod sawl un sy'n credu na fyddai'r llifogydd wedi eu heffeithio os byddai'r lloriau wedi eu hadeiladu i'r lefelau sy'n cael eu rhoi yn y cynlluniau.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyfaddef nad oedden nhw wedi sicrhau bod y lloriau wedi eu hadeiladu i'r lefelau iawn, ond eu bod yn cyrraedd safonau Asiantaeth yr Amgylchedd.
Dywedodd un cynghorydd lleol bod angen atebion i drigolion yr ardal.
'Anghredadwy'
Pan ddechreuodd y gwaith adeiladu ar Stad Glasdir cafodd lefel llawr ei osod i bob tŷ.
Cafodd y lefelau yma eu hadolygu yn 2010 ond mae trigolion y stad yn dweud nad yw'r tai wedi eu hadeiladu i'r lefelau diweddaraf yma.
"Rydym ni wedi gweld cynlluniau sy'n dangos y lefel y dylai ein tŷ ni fod arni, rhyw 55cm yn uwch 'na beth yw hi," meddai Poppy Williams, sy'n byw ar y stâd.
"Cawsom ni rhyw 15cm o ddwr yn y tŷ felly i mi mae'n awgrymu pe bawn ni wedi bod ar y lefel cywir, mae'n bosib na fyddwn ni wedi cael dŵr yn y tŷ.
"Oherwydd natur y stad, a lle cafodd ei hadeiladu - ar orlifdir - a'r risg o lifogydd roedd pawb yn ymwybodol ohoni, mae'n anghredadwy nad oedden nhw [Cyngor Sir Ddinbych] wedi gwirio lefelau'r lloriau."
Cyfrifoldeb
Cyfrifoldeb Cyngor Sir Ddinbych oedd sicrhau bod y lefelau cywir wedi eu rhoi i'r adeiladwr, ond mae'r cyngor wedi cyfaddef nad oedd hynny wedi digwydd.
Maen nhw'n dweud nad oes unrhyw dystiolaeth bod lefelau'r lloriau yn y tai newydd wedi eu gwirio ganddyn nhw.
Er hynny, maen nhw'n honni bod lefelau'r lloriau yn y tai yn cyrraedd gofynion Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae'r cynghorydd lleol, Huw Hilditch-Roberts wedi dweud bod angen atebion i bobl y stad.
Gwrthododd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sergeant gael ei gyfweld ar y rhaglen, ond dywedodd bod gan Llywodraeth Cymru bolisi cryf yn erbyn adeiladu tai mewn ardaloedd hefo risg o lifogydd.
Ond mae BBC Cymru wedi darganfod bod 6 datblygiad newydd wedi eu cymeradwyo y llynedd yn erbyn pob cyngor.
Mae'r Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies wedi dweud bod y llywodraeth yn gwario £240 miliwn ar amddiffyniadau llifogydd dros Gymru.
"Mae'n ofnadwy, beth ddigwyddodd ar stad Glasdir, dwi'n deall effaith y llifogydd ar bobl a'u teuluoedd a'r gymuned," meddai Alun Davies.
"Rydym yn edrych ar sut i ymateb i Glasdir a'r llifogydd, rydym yn edrych ar nifer o elfennau gwahanol o hynny.
"Ein tasg yw rhagweld cyn belled a phosib y math o law gallwn ddisgwyl heddiw ac yn y dyfodol, a cheisio rheoli llifogydd mewn ffordd fwy synhwyrol na sydd wedi digwydd yn y gorffennol."
Ond wrth i'r gaeaf ddod a rhagor o dywydd stormus, mae hi'n amser pryderus unwaith eto i drigolion Glasdir.
Bydd Week In Week Out yn cael ei ddangos ar BBC1 am 10.35yh ar Dachwedd 5.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd3 Medi 2013
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012