Cynghorwyr Môn: Caniatâd i gais Land & Lakes
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Môn wedi newid eu meddwl a rhoi caniatâd cynllunio i adeiladu parc gwyliau ger Caergybi.
Cafodd y cais dadleuol gan gwmni Land & Lakes i adeiladu parc gydag 800 o letyau ei dderbyn gan bwyllgor cynllunio'r sir o bum pleidlais i dair ddydd Iau.
Fis diwethaf cafodd y cais ei wrthod gan yr un pwyllgor.
Ond bu'n rhaid cael cyfarfod arall i drafod y cynllun oherwydd bod swyddogion cynllunio'r sir wedi dweud eu bod yn cymeradwyo'r cynllun.
Dywed y cwmni Land & Lakes y bydd y cynllun yn creu 600 o swyddi.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud y byddai'r datblygiad yn "tanseilio'r iaith Gymraeg" yn yr ardal.
'Ynys Fenter'
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd deilydd portffolio Datblygu Economaidd Môn, y Cynghorydd Aled Morris Jones, "Mae'r penderfyniad heddiw yn danfon neges glir fod Ynys Môn yn parhau'n Ynys Fenter.
"Mae'r cais yma'n cynnwys amryw o gytundebau gyda'r ymgeisydd i gyd wedi'u hanelu tuag at hybu cyflogaeth leol a'r gadwyn gyflenwi busnes lleol."
Bydd y cais yn cael ei gyfeirio nawr at Lywodraeth Cymru am gyfnod o 21 diwrnod gydag argymhelliad bod yr awdurdod cynllunio lleol o blaid caniatáu'r cais.
Roedd y cwmni wedi dweud y byddant yn mynd i apêl pe na bai'r penderfyniad gwreiddiol i wrthod y cais yn cael ei newid.
'Siomedig iawn'
Ond er bod llawer ar yr ynys o blaid y datblygiad nid yw pawb yn teimlo yr un fath.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisoes wedi codi pryderon am yr effaith ar yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n siomedig iawn i glywed y newyddion heddiw. Mae'r cwmni a'r adran gynllunio wedi datgan na fydd rhaid cynnal asesiad o effaith iaith y datblygiad, sydd yn dangos yn glir bod ffaeleddau amlwg yn y cais.
"Nid yw hwn yn ddatblygiad cynaliadwy oherwydd fe fydd yn tanseilio'r Gymraeg yn ogystal â'r amgylchedd.
"Os caniateir i'r datblygiad fynd yn ei flaen, golyga hynny adeiladu mewn ardal o harddwch naturiol arbennig, heb sôn am ddinistrio'r hyn sydd yn gwneud Cymru yn arbennig yn y lle cyntaf."
Y cynllun
Mae'r cynllun ar gyfer y safle ym mhentref Penrhos yn cynnwys 500 o letyau, parc dŵr a chyfleusterau hamdden.
Byddai'r llety yng Nghae Glas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithwyr fydd yn adeiladu gorsaf pŵer Wylfa B, cyn cael ei droi yn westai a chaeau chwarae.
Yn ôl y cynllun, byddai rhai o'r bythynnod yn cael eu defnyddio i weithwyr adeiladu'r parc, cyn troi rhai yn dai preswyl.
Gwrthod
Ym mis Hydref, pleidleisiodd cynghorwyr y pwyllgor cynllunio o bump i ddau yn erbyn cymeradwyo'r parc, gyda dau yn ymatal eu pleidlais.
Er bod swyddogion wedi argymell cymeradwyo'r parc, roedd cynghorwyr yn poeni am effaith y datblygiad ar yr Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol, a'r perygl o or-ddatblygu cefn gwlad.
Dywedodd Cyngor Môn bod swyddogion wedi argymell y dylai cynllun gael ei gymeradwyo'r tro hwn oherwydd y budd economaidd y byddai'n dod i'r ardal.
Wedi'r penderfyniad gwreiddiol, dywedodd prif weithredwr Land & Lakes, Richard Sidi, mai apêl fyddai'r cam olaf.
Mae'r cynllun wedi bod yn fater dadleuol yn yr ardal, gyda rhai yn awyddus i weld datblygiad economaidd i greu swyddi yn lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013