'Cannoedd o chwilod du' mewn cegin ysbyty
- Cyhoeddwyd
Roedd cegin mewn ysbyty yn "anaddas fel lle i bobl weithio ynddo".
Oherwydd cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth mae'r BBC wedi darganfod fod "problem ddifrifol" mewn cegin yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Bu'n rhaid i gwmni difa pla ddinistrio'r holl gynnyrch yn y gegin wedi iddyn nhw ddarganfod "cannoedd o chwilod duon".
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda nad oedd y gegin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi bwyd ar gyfer cleifion a'i bod ar wahân i'r prif adeilad.
Llygoden farw
Fe ddaeth i'r amlwg hefyd fod llygoden farw wedi cael ei darganfod mewn ystafell olchi yn Ysbyty Llanymddyfri.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Mae'r bwrdd iechyd o ddifri ynglŷn â rheoli plâu ac mae cytundeb mewn lle ar gyfer delio gyda'r broblem yn gyflym."
Roedd problemau ymhob un o'r byrddau iechyd ymatebodd i gais BBC Cymru:
Ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro mae cwmnïau rheoli pla wedi eu galw 155 o weithiau i ddelio gyda llygod ers Tachwedd 2010.
Dywedodd llefarydd bod llawer o'u safleoedd ger parciau neu gaeau agored ac nad oedd y problemau'n golygu bod yr adeiladau'n fudr.
Fe wariodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg bron £34,000 ar reoli plâu rhwng 2010 ac Awst y flwyddyn hon.
Dywedodd llefarydd "fod ysbytai oherwydd eu natur yn adeiladau gyda nifer o ddrysau a mynedfeydd, a gellir eu lleoli mewn ardaloedd sy'n cefnu ar gaeau, gwrychoedd, llwyni, ac ati sy'n cynnwys pryfed neu fywyd gwyllt arall."
Mae'r gost i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi gostwng yn sylweddol ers 2010-11 pan gafodd £28,000 ei wario mewn blwyddyn.
Cafodd £7,770 ei wario yn 2012-13, gan gynnwys mesurau er mwyn atal problemau.
Ers Mai 2012 mae Bwrdd Iechyd Powys wedi galw gwasanaethau trin plâu i'w hysbytai 94 o weithiau a thalu bron £6,000.
Dywedodd llefarydd fod y mwyafrif o'r digwyddiadau yn ymwneud â morgrug a nythod cacwn oedd yn "broblemau bach".
Ni wnaeth byrddau iechyd Cwm Taf na Betsi Cadwaladr ymateb oherwydd cost casglu'r wybodaeth ond dywedodd Cwm Taf eu bod wedi gwneud 72 galwad y flwyddyn ddiwethaf oherwydd problemau gyda morgrug, llygod, pryfed ac adar.
'Dinistriol'
Yn ôl Richard Moseley, rheolwr technegol y Gymdeithas Rheoli Pla, y gallai creaduriaid fel llygod mawr a chwilod du fod yn "ddinistriol" mewn ysbytai.
"Maen nhw'n gallu niweidio iechyd rhywun. Yn lle bynnag y maen nhw, maen nhw'n gallu lledu haint neu salwch.
"Os oes pla mewn ysbyty gallai'r dinistr fod yn llawer mwy gan fod system imiwnedd cleifion wedi ei hamharu eisoes."