RCT: 360 o swyddi dysgu yn y fantol?
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn rhybuddio y gallai cannoedd o swyddi gael eu colli yn y Rhondda os yw'r cyngor yn penderfynu bwrw 'mlaen gyda chynlluniau i dorri nôl ar addysg i blant.
Yn ôl UCAC, mae'r cyngor wedi dweud yr wythnos hon y byddai codi'r oed pan mae plant yn derbyn addysg lawn o dair i bedair yn arwain at 360 yn colli eu gwaith.
Mae'r cyngor yn ystyried gwneud y toriadau oherwydd eu bod yn wynebu derbyn llai o arian ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dyw Cyngor Rhondda Cynon Taf heb wadu bod sail i honiad UCAC.
Gwneud arbedion
Mae'r cyngor yn ystyried gwneud y toriadau gan eu bod yn ceisio gwneud arbedion o £56 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.
Maen nhw'n beio llywodraeth Prydain am dorri'r lefel o arian sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus.
Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am benderfynu faint o arian mae'r cynghorau yn ei dderbyn fel rhan o'r broses o rannu'r arian sy'n cael ei roi iddynt bob blwyddyn fel grant o San Steffan.
Dywedodd llefarydd ar ran UCAC: "Mae'r cyngor wedi amcangyfrif y gallai 360 o swyddi fynd o fewn yr awdurdod lleol petai'r toriadau yn mynd yn eu blaen.
"Mae'n debyg y byddai 100 o'r rheiny yn swyddi athrawon gyda rhyw 260 pellach yn gynorthwywyr dosbarth."
'Rhaid gostwng lefel y gwasanaeth'
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae llywodraeth y DU wedi torri'r lefel o gyllideb sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac o ganlyniad mae'n rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf ostwng lefelau ei wasanaethau.
"Mae'r cyngor yn wynebu diffyg mewn adnoddau o ryw £70 miliwn dros y pedair blynedd nesaf. Er mwyn delio gyda'r diffyg hwn, mae'r cyngor wedi gorfod ystyried opsiynau i ostwng gwario drwy ad-drefnu, torri neu leihau'r gwasanaethau mae'n gynnig.
"Dechreuodd cyfnod ymgynghori o bedair wythnos ar ddydd Llun 4 Tachwedd sy'n rhoi cyfle i'r cyhoedd ddweud eu barn ar y cynigion.
"Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ddydd Llun 2 Rhagfyr a ni fyddai'n addas gwneud sylw pellach nes ar ôl y dyddiad hwnnw."
Bygythiad i addysg cyfrwng Gymraeg
Mae rhieni ac athrawon yn ardal y Rhondda eisoes wedi codi pryderon am broblemau eraill allai godi os yw'r penderfyniad i dorri addysg feithrin yn cael ei wneud.
Y pryder yw y byddai plant yn colli'r cyfle i fynd i ysgolion Cymraeg gan na fyddai trafnidiaeth am ddim ar gael ac mai nifer bychan o ysgolion cyfrwng Gymraeg sydd yn y sir.
Mae UCAC hefyd wedi dweud bod perygl i blant golli un o'r prydau maen nhw'n dderbyn yn yr ysgol gan y byddan nhw wedi mynd adref erbyn amser cinio.
"Yn enwedig mewn ardal fel y Rhondda, ardal ddifreintiedig, mae pethau fel cinio a dod i'r ysgol ar fys yn caniatáu i rieni a phlant gael rhywbeth gwerth chwil yn ei bywydau," meddai llefarydd UCAC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013