Iechyd: Methu targed eto

  • Cyhoeddwyd
A&E

Mae targedau ar gyfer faint o amser dylai cleifion orfod aros cyn cael eu gweld mewn unedau brys yn yr ysbyty wedi cael eu methu eto.

Targed Llywodraeth Cymru yw bod 95% yn cael eu gweld o fewn pedair awr, ond dim ond 90.4% a welwyd yn ystod yr amser yno ym mis Hydref.

Mae'r Ceidwadwyr wedi disgrifio'r ffigyrau fel "gwarth cenedlaethol".

Mewn ymateb dywedodd y llywodraeth bod y ffigyrau diweddaraf y rhai gorau ers pedair blynedd.

778 yn aros dros 12 awr

Un arall o dargedau eraill y llywodraeth sy'n cael ei fethu'n gyson yw na ddylai unrhyw glaf orfod disgwyl mwy na 12 awr i gael ei asesu, ei adael i mewn i'r uned frys neu ei ryddhau.

Roedd 778 o bobl wedi aros mwy na 12 awr ym mis Hydref. Mae'r ffigwr yn well nag yr oedd yn gynharach yn y flwyddyn - ym mis Ebrill fe arhosodd dros 2,000 o gleifion am gyfnod hirach na 12 awr.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar fod y ffigyrau newydd yn destun pryder gan ystyried nad yw pwysau ychwanegol y gaeaf wedi cael ei deimlo eto.

"Wrth i'r pwysau gynyddu a'r galw gynyddu mae ein gwasanaeth iechyd yn dechrau'r gaeaf ar ei hôl hi unwaith eto," meddai.

'Gwarth cenedlaethol'

Ychwanegodd Mr Millar: "Bydd cymunedau'n pryderu ac rydyn i gyd yn haeddu cael gwybod sut mae pob ysbyty yn paratoi am y gaeaf - dyna pam rydym wedi galw'n gyson ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gaeaf cenedlaethol...

"Mae'n parhau i fod yn warth cenedlaethol fod Carwyn Jones wedi methu a chyflawni ei darged ei hun yr un waith mewn pedair blynedd, a bydd ei ad-drefnu diangen a'i israddio ond yn gwneud pethau'n waeth."

Roedd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones hefyd yn rhannu pryderon Mr Millar.

"Tra rydym yn croesawu'r gostyngiad yn y nifer o gleifion sy'n aros yn hirach na 12 awr mewn uned frys, rwyf yn pryderu y bydd pethau yn gwaethygu pan mae'r gaeaf yn dechrau go iawn ac mae'r nifer sy'n mynychu unedau brys yn cynyddu," meddai.

"Bydd cynlluniau'r llywodraeth i ostwng y nifer o unedau brys hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaeth sydd eisoes yn cael ei or-ymestyn."

'Pethau'n gwella'

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r feirniadaeth o'r ffaith bod y targed wedi cael ei fethu eto gan ddweud eu bod nhw'n agosach at ei gyrraedd nag yn y gorffennol.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Ym mis Ebrill gwelwyd 85.7% o gleifion o fewn pedair awr mewn unedau brys Cymru. Mae'r ffigwr wedi bod dros 90% ers hynny sy'n cynrychioli'r rhediad gorau o berfformiad mewn pedair blwyddyn."

Yn ogystal dywedodd y llywodraeth bod rhai achosion pan mae cadw cleifion mewn unedau brys yn addas - er enghraifft ar gyfer monitro a phrofion.

Mewn cysylltiad â pharatoi am bwysau ychwanegol y gaeaf, dywedodd y llefarydd: "Fe wnaethon ni ddechrau paratoi at y gaeaf hwn pan roedd yr eira dal ar y llawr ym mis Mawrth ac mae cynllunio cadarn wedi cael ei wneud gan y GIG yng Nghymru gyda'r awdurdodau lleol ers hynny.

"O ganlyniad mae GIG Cymru ar sail gryfach wrth i'r cyfnod heriol agosáu."