Methu targedau ambiwlans unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Gwasanaeth Ambiwlans wedi ymateb i 62.9% o achosion brys o fewn wyth munud - targed Llyworaeth Cymru yw 65%

Dyw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddim wedi cwrdd â thargedau'r llywodraeth o ran ymateb i alwadau Categori A unwaith eto.

Roedd yna ymateb o fewn wyth munud i alwadau brys ble roedd bygythiad difrifol i fywyd mewn 62.9% o achosion.

Mae hyn yn gynnydd o'i gymharu â'r 61.8% a gofnodwyd ym mis Awst.

Ond mae'n parhau islaw'r targed o 65% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dyw'r targed hwnnw ddim wedi'i gwrdd ers mis Mai'r llynedd.

'Perfformiad gorau ers 12 mis'

Ym mis Medi, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod targedau ar gyfer trin cleifion yn y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu hadolygu.

Mewn ymateb i'r ffigurau diweddara', dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Mercher:

"Rydym wedi'n calonogi fod mwy o gleifion sydd angen gofal brys yn cael mynediad amserol at wasanaethau ambiwlans, yn enwedig gan fod hyn yn cynrychioli'r perfformiad gorau ers 12 mis.

"Rydym yn disgwyl i Fyrddau Iechyd Lleol i barhau i weithio'n agos gyda'r gwasanaeth ambiwlans tuag at gyrraedd y targed cenedlaethol ac er mwyn darparu gwasanaethau ambiwlans yn gyson ar draws Cymru."

'Gwahaniaeth rhwng byw a marw'

Mewn ymateb i'r ffigurau a gyhoeddwyd ddydd Mercher, dywedodd Darren Millar AC, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig:

"Unwaith eto mae Llywodraeth Lafur Carwyn Jones wedi methu cwrdd â thargedau ymateb ambiwlansys, gan olygu fod gormod o gleifion yn aros yn rhy hir am driniaeth allai achub eu bywyd fis diwetha'.

"Wedi methu cwrdd â'r targedau hyn am yr 16eg mis yn olynol, mae'r Prif Weinidog nawr yn ceisio cael gwared ar dargedau er mwyn cuddio methiannau yn rheolaeth ei lywodraeth o'r gwasanaeth iechyd.

"Mae'r targed wyth munud yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ar draws y DU ac i rai cleifion sy'n sâl iawn, gall ychydig funudau o oedi olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

"Mae'n rhaid i weinidogion Llafur gydnabod yr angen am dargedau cyrhaeddiad, sy'n rhoi darlun o berfformiad y gwasanaeth iechyd, fel bod modd sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n atebol i gleifion."

Targed is yng Nghymru

Cyfeiriodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru at y ffaith fod y targed yng Nghymru'n is na'r 75% yn Lloegr a'r Alban.

Yn ôl Kirsty Williams: "Er gwaetha' ymdrechion y parafeddygon ar y rheng flaen, sy'n gweithio mor galed, mae mis arall wedi mynd a tharged arall wedi'i fethu gan Lafur Cymru.

"Mae'n ddigon drwg fod gan bobl Cymru lywodraeth sy'n llai uchelgeisiol nag yn Lloegr a'r Alban, ond mae'n gwneud pethau'n waeth fod y targedau is yna'n cael eu methu.

"Mae AS Llafur Ann Clwyd yn gywir wrth ddweud fod Cymru'r tu ôl i Loegr ym mhob ystyr. Mae'n rhaid i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd roi'r gorau i gladdu'u pennau yn y tywod a sicrhau'r gwasanaeth iechyd mae pobl Cymru'n haeddu."

Meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Rydym wedi cyflwyno nifer o fesurau i wella'r ymateb ac mae'n galonogol ein bod nawr yn dechrau gweld gwelliant parhaol.

"Hoffem sicrhau'r cyhoedd fod yr Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i ddarparu'r amcanion cyfredol o ran gwelliannau er mwyn sicrhau'r ansawdd gorau o ofal i bobl Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol