Chris Coleman y ffefryn i swydd wag Crystal Palace
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyfalu am ddyfodol rheolwr Cymru Chris Coleman yn parhau.
Erbyn hyn fe yw ffefryn clir y rhan fwya' o'r bwcis i lenwi'r swydd wag yn Crystal Palace.
Er hynny gwadu mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod unrhyw gynnig wedi ei wneud am ei wasanaethau gan y tîm sydd ar waelod Uwch-gynghrair Lloegr.
Gadawodd Ian Holloway Palace ddiwedd mis Hydref ac mae'r clwb wedi bod yn chwilio am reolwr newydd ers hynny.
Yn ddiweddar dywedodd chwaraewr canol cae Cymru a Celtic Joe Ledley ei fod yn gobeithio na fydd Coleman yn gadael Cymru.
"Rwy'n gobeithio y gallwn ni ei gadw yng Nghymru ac y gallwn ni symud ymlaen gyda'n gilydd," meddai.
"Mae wedi gwneud swydd dda [i Gymru] - er iddo gymryd ychydig o amser roedd yn ddiwedd gwych i'r grŵp.
"Mae e wedi bod yn wych ers i mi fod yna ac mae pawb yn ei gefnogi."
Gorffennodd Cymru'n bumed allan o'r chwech yn eu grŵp ac ers hynny mae cwestiynau wedi cael eu gofyn ynglŷn â phwy fydd yn arwain y tîm yn ystod gemau rhagbrofol Ewro 2016.
Mae cytundeb Coleman yn dod i ben yn dilyn y gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffindir ar 16 Tachwedd ac er ei fod wedi cael cynnig cytundeb newydd yn flaenorol, nid yw'n glir os yw'r cynnig hwnnw'n dal ar gael iddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2013