Coleman yn parhau i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Chris Coleman wedi arwyddo ymestyniad i'w gytundeb i barhau fel rheolwr Cymru tan gystadleuaeth Ewro 2016.
Y gred yw bod y rheolwr, 43, wedi arwyddo ymestyniad o ddwy flynedd gyda'r Gymdeithas Bêl-Droed, wedi wythnosau o ansicrwydd.
Byddai cytundeb Coleman wedi dod i ben yn dilyn gêm Cymru yn erbyn y Ffindir ar Dachwedd 16.
Roedd ansicrwydd wedi bod ynghylch ei ddyfodol wedi cyfres o ganlyniadau gwael, ac roedd sawl un hefyd wedi ei gysylltu gyda swydd yn ei hen glwb, Crystal Palace.
Cafodd Cymru ymgyrch siomedig yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 eleni, gyda nifer yn cwestiynu gallu Coleman fel rheolwr.
Gorffennodd Cymru'n bumed yn y grŵp ar ôl tair buddugoliaeth, un gêm gyfartal a chwe cholled.
Gall Coleman adio at ei dîm hyfforddi nawr, yn dilyn ymddiswyddiad John Hartson fel hyfforddwr cynorthwyol yn ddiweddar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012